Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 19 Hydref 2021.
Rwy'n hapus i helpu'r Aelod, ond mae ganddo gymorth yn nes at law. Dywedodd ei arweinydd yn y Cyfarfod Llawn, yma ar lawr y Senedd:
'hoffwn weld gwaharddiad ar faglau...ni welaf unrhyw ddefnydd modern iddynt o gwbl.'
Neu mae'n debyg y gallwn i ddarparu'r erthygl iddo â'r pennawd 'Welsh Tories call for ban on "cruel" snares'. [Torri ar draws.] Ie, Torïaid Cymru—[Torri ar draws.] Welwch chi, fe allaf i ei helpu, Llywydd. Rwy'n fodlon ei helpu, ond mae ganddo gymorth ar y meinciau drws nesaf iddo. Erthygl gan Russell George oedd hon:
'Mae'r Ceidwadwyr Cymreig eisiau gwaharddiad llwyr ar faglau ac rydym ni'n llwyr gefnogi galwadau gan ymgyrchwyr lles anifeiliaid.'
Rwy'n credu y byddai'n well i'r Aelod dreulio ei amser yn ymgynghori â'i gyd-Aelodau, oherwydd mae'n amlwg bod ganddyn nhw yr atebion i'w gwestiynau y gallan nhw ei helpu â nhw.