Part of the debate – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 19 Hydref 2021.
Diolch. Wel, mae ariannu gofal cymdeithasol yn rhywbeth sydd ar frig y rhan fwyaf o agendâu llywodraethau, ac mae'n rhywbeth yr ydym ni'n sicr yn ei ystyried, fel Llywodraeth. Ni fyddwn i'n cytuno â chi ynghylch y ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi ei ariannu. Nid ydym ni’n credu mai dyna'r ffordd gywir o'i wneud, ond mae'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei ystyried yn ofalus iawn. Fel y gwyddoch chi, rydym ni nawr yn dod i'r adolygiad cynhwysfawr o wariant, a thymor y gyllideb a'r gyllideb ddrafft, felly rwy'n siŵr y bydd digon o gyfle i holi'r Gweinidog cyllid.