3. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Symud Economi Cymru Ymlaen

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 19 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:00, 19 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Mae'n un o'r ysgogiadau y mae gennym ni reolaeth arno, ac, fel y gwyddoch chi, y Gweinidog arweiniol o ran caffael yw'r Gweinidog cyllid, Rebecca Evans, ond mae'n faes y mae gan lawer ohonom ni fuddiant uniongyrchol ynddo o'n gwahanol safbwyntiau portffolio. Felly, gallwch chi ddisgwyl clywed mwy am yr hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud o ran rhoi gwerth ar gaffael yng Nghymru—nid yn unig o ran y gwariant a'r swm o arian o ran contractau caffael, ond y gwerth ehangach y mae'r broses gaffael honno yn ei gyflawni. Ac mewn gwirionedd, yn hyn o beth, yn ogystal â chanfod bod cytundeb ar draws y Llywodraeth o ran mabwysiadu'r dull hwnnw, rydym yn gweld bod cytundeb mewn gwirionedd o fewn grwpiau busnes hefyd.

A phan oeddech chi'n siarad am seilwaith a chael gafael ar gyllid, wrth gwrs yng nghwestiynau'r Prif Weinidog fe wnaethom ni dynnu sylw eto at rai o'r heriau o ran yr hyn yr ydym ni'n ei ystyried yn seilwaith modern mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd, gan gynnwys y meysydd hynny nad ydyn nhw wedi eu datganoli; felly, o ran seilwaith y rheilffyrdd, lle mae'r Llywodraeth hon wedi buddsoddi oherwydd nad yw Llywodraeth y DU wedi gwneud, ac o ran band eang, nad yw'n gyfrifoldeb datganoledig, y seilwaith hwnnw, ond mae'r Llywodraeth hon wedi buddsoddi oherwydd diffyg cyflymder a pharodrwydd gan Lywodraeth y DU i wneud hynny. Felly, mae yna feysydd eisoes lle rydym ni'n buddsoddi mewn meysydd nad ydym ni'n gyfrifol amdanyn nhw'n uniongyrchol ond rydym ni'n cydnabod yr angen i wneud hynny er mwyn cynyddu gallu pobl i weithio a symud o gwmpas. Ac mewn gwirionedd, mae hynny'n cyflymu, oherwydd, pan ydym ni'n sôn am y gallu i weithio mewn ffordd wahanol—yn arbennig felly, gweithio o bell—mewn gwirionedd mae ein seilwaith band eang yn gwbl hanfodol i wneud hynny, a byddai hwnnw'n faes lle gellid cael sgwrs gynhyrchiol, unwaith eto, rhwng y Llywodraeth hon a Llywodraeth y DU pe byddai parodrwydd gwirioneddol i ymrwymo i gynllun sy'n cynyddu buddsoddiad.

Roedd gen i ddiddordeb yn eich pwynt ynglŷn â chael gafael ar gyllid, oherwydd, mewn gwirionedd, mae gennym ni rywfaint o gyllid yr ydym ni'n ei ddarparu eisoes ac sydd ar gael. Ceir ffynonellau traddodiadol, ond wrth gwrs mae'r banc datblygu wedi bod yn ased sylweddol yn ystod y pandemig a thu hwnt i hynny, wrth fuddsoddi mewn busnesau yng Nghymru i roi cyfle iddyn nhw dyfu ac ehangu ymhellach. Ond, yn fwy na hynny, ym Manc Busnes Prydain, sydd â'i gylch gwaith yn ymestyn ledled Prydain, mewn gwirionedd pan edrychwch chi ar ei ddewisiadau buddsoddi hyd yn hyn, mae tuedd iddo ffafrio rhannau penodol o'r DU, a mater yw hwn o wahaniaethu rhwng rhanbarthau yn Lloegr ei hunan, heb sôn am weddill y DU. Yn ddiweddar, mae wedi cyhoeddi y bydd yn cael cronfeydd buddsoddi ecwiti i edrych ar gyfryngau mewn rhai rhannau o'r DU, gan gynnwys de-orllewin Lloegr. Hyd yn hyn, nid yw wedi edrych ar gronfa fuddsoddi benodol i flaenoriaethu a chynyddu'r buddsoddiadau ecwiti y mae'n fodlon eu gwneud mewn busnesau yng Nghymru. Mae hynny'n rhywbeth yr hoffwn i gael sgwrs gyda'r banc yn ei gylch, oherwydd yn fy marn i, os nad ydych chi'n fodlon dweud y byddwch chi'n buddsoddi mewn gwahanol rannau o'r DU, gan gynnwys Cymru, ni ddylai fod yn syndod i chi os nad yw busnesau yma yn gallu cael gafael ar y cyfalaf sydd ar gael lle ceir cysylltiadau mwy arferol a dibynadwy mewn gwahanol rannau o fusnes yn y DU.

Ac o ran y prinder sgiliau, unwaith eto, pwynt yw hwn sy'n dilyn ymlaen o Fanc Datblygu Cymru. Mae'n bwynt yr wyf i wedi ei wneud droeon, a byddaf i'n parhau i'w wneud nes y cawn ni rywfaint o gydnabyddiaeth o wirionedd y sefyllfa. Mae sgiliau yn hanfodol i ddyfodol economi Cymru. Mae angen i ni fuddsoddi mewn pobl, yn ogystal â lleoedd, i ddefnyddio'r doniau sydd gennym ni a denu a chadw doniau yma yng Nghymru. Ond, mewn gwirionedd, pan edrychwch chi ar brentisiaethau, y mae pob plaid yn y lle hwn yn eu cefnogi ac yn awyddus i weld mwy ohonyn nhw, mae traean o'r prentisiaethau yr ydym ni'n eu darparu yn cael eu hariannu gan gronfeydd strwythurol blaenorol gan Ewrop. A heb gynllun—ac nid oes cynllun yn bodoli ar hyn o bryd—ar gyfer yr hyn a fyddai'n digwydd i'r cronfeydd blaenorol hynny, nid pwynt o ansicrwydd yn unig yr ydym yn ei wynebu, ond y blynyddoedd treialu, gyda'r £10 miliwn nad yw wedi ei ariannu hyd yn hyn ac nad yw wedi mynd tuag at unrhyw brosiect treialu unigol, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU, maen nhw'n hepgor prosiectau sydd o bwys rhanbarthol neu genedlaethol.

Felly, mewn gwirionedd, mae'n ffordd o ddatgymalu'r gwersi yr ydym ni wedi eu dysgu a bydd yn tynnu arian oddi ar fuddsoddi mewn sgiliau. Byddai'n drychineb, nid yn unig yma yng Nghymru, ond ledled y DU. Os ydych chi'n meddwl am faint o wariant yr ydym ni'n sôn amdano, os caiff yr arian treialu ei ddarparu o'r diwedd ac os gallwn ni, er mawr ryfeddod, wario'r cyfan yn ystod y flwyddyn hon, bydd y diffyg yn dal i fod yn eithriadol. I roi enghraifft i chi o'i faint mewn gwirionedd, mae'r arian na fyddwn yn ei gael yn ystod yr un flwyddyn hon yn cyfateb i fwy na dwbl maint cyllideb flynyddol Cyngor Sir Fynwy. Dyna'r arian na fydd Cymru yn ei gael eleni, ac, os nad oes cynllun ar gyfer y dyfodol, dyna fydd y diffyg y flwyddyn nesaf, ar gyfer yr arian a ddylai fod yn dod i Gymru. Ac mae hi wir yn syndod gweld gwleidyddion Ceidwadol yn siarad yn y fan hon ac yn dweud, 'Diolch i'r nefoedd am Lywodraeth y DU', nad yw'n darparu'r cyllid hwn i Gymru. Mae angen i chi benderfynu a ydych chi o blaid eich etholwyr chi, eu swyddi nhw, a'r busnesau sy'n dibynnu ar yr arian hwnnw, neu a ydych chi yma i gefnogi Llywodraeth y DU sy'n tynnu cannoedd o filiynau o bunnoedd allan o Gymru ar hyn o bryd.

Ac o ran ein cynllun cyflogadwyedd a sgiliau, wrth gwrs bod hyn, unwaith eto, yn rhan o'r her i ni. Felly, bydd hon yn ffordd y byddwn yn gallu ystyried y dull o ddwyn pobl yn nes at y farchnad lafur ac i waith unwaith eto. Gadawodd yr Adran Gwaith a Phensiynau rywfaint o hyn yn wagle yn y gorffennol ac maen nhw wedi dychwelyd erbyn hyn i lenwi mwy o'r gwagle cyflogadwyedd gyda'r rhaglenni y maen nhw'n eu cynnal. Ond mae'r rhan fwyaf o'r rhaglenni hynny ar gyfer pobl sydd eisoes yn agos at y farchnad lafur ei hun—felly pobl sydd eisoes, yn y bôn, yn barod i weithio. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yw cael gwaith i'r bobl hynny, ond hefyd i'r bobl nad ydyn nhw'n gweithio, heb waith a heb fod yn agos at fod mewn gwaith. A dyna'r hyn yr ydym ni'n awyddus i'w wneud a'i flaenoriaethu, fel y nodais yn fy natganiad i. Oherwydd, os na chawn ni fwy o'r bobl hynny'n ôl yn y gwaith, yna, mewn gwirionedd, yn nyfodol economi Cymru, bydd gennym ni faen melin am ein gwddf o ran ein gallu i gynyddu incwm y wlad gyfan yn wirioneddol. Felly, mae honno'n her fawr iawn. Ni fyddwch chi'n gweld cymaint o elw y pen ag y byddech chi gyda'r rhaglenni hynny sy'n ymwneud â phobl sy'n barod am waith, ond byddwch chi yn gweld effaith wirioneddol ar ddyfodol yr economi. Gallwch chi ddisgwyl clywed mwy am hynny pan fydd sôn am ddyfodol ynni adnewyddadwy, a mwy am yr hyn y byddwn ni'n ei wneud i fanteisio ar y potensial gwyrdd yng Nghymru, pan fydd Julie James yn nodi'r ail gynllun cyflawni carbon isel cyn diwedd y mis hwn.

Ac, o ran adolygiad Reid, unwaith eto, nid wyf i am ailadrodd yr holl bwyntiau a wnes i o'r blaen ynghylch cyllid, ond, wrth gwrs, mae addysg uwch wedi ei heithrio o'r cynlluniau treialu presennol ar gyfer y cronfeydd a fydd yn disodli cronfeydd Ewropeaidd. A siaradais i â rhwydwaith arloesi Cymru o brifysgolion Cymru, gan ystyried arloesedd, ynghyd â Chymdeithas Ddysgedig Cymru, ac maen nhw'n wirioneddol bryderus ynghylch y ffaith nad oes yna gynllun o ran sut y gellir parhau i ariannu'r rhain i wneud y gwaith maen nhw'n ei wneud—nid dim ond y gwerth academaidd o gaffael gwybodaeth, ond y gallu i'w gymhwyso ac ysgogi twf economaidd pellach. Ac maen nhw'n cydnabod y bydd yn rhaid cwtogi ar y pennawd yn adolygiad Reid os na chawn ni'r sicrwydd hwnnw ynglŷn â chyllid. Ond, yn sicr, rydym ni'n dymuno gallu bwrw ymlaen â hynny a chyflawni'r ymrwymiadau yr ydym ni wedi eu gwneud os cawn ni sicrwydd o gyllid.

Ac o ran y warant i bobl ifanc, bydd gen i ddatganiad arall i'w wneud cyn diwedd y flwyddyn galendr hon, ond rydym ni eisoes wedi bwrw ymlaen, fel dywedais i yn fy natganiad, â Twf Swyddi Cymru+—mae honno'n rhan allweddol o helpu pobl nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn ôl i'r gwaith, gan adeiladu ar gynlluniau llwyddiannus. Ac mae'r gwaith rydym ni wedi ei wneud eisoes gyda phobl ifanc yn dangos bod y rhan fwyaf o bobl nad ydyn nhw mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant yn awyddus i ddod o hyd i waith. Felly, mae mwy o'n cefnogaeth yn cael ei symud i weld beth allwn ni ei wneud i helpu'r bobl hynny i ymuno â'r farchnad lafur unwaith eto, neu ymuno â'r farchnad lafur am y tro cyntaf, a dod o hyd i waith ystyrlon sy'n talu'n dda. Wedi'r cyfan, dyna'r hyn y mae pob un ohonom ni yn y Siambr yn dymuno ei weld i'n pobl ifanc ni a thu hwnt.