3. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Symud Economi Cymru Ymlaen

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 19 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru 3:07, 19 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf, hoffwn groesawu'r datganiad. Rwyf i wedi dweud droeon yn y Siambr fod angen i ni gael gweledigaeth a strategaeth hirdymor i economi Cymru, ac rwy'n arbennig o falch o weld y pwyslais ar beidio â cholli doniau.

Byddwn i'n dweud, er hynny, nad wyf i'n teimlo mai dechrau'r drafodaeth yw hyn. Mae'r drafodaeth ar golli doniau wedi bod yn digwydd am ddegawd neu fwy neu felly mae'n teimlo. Er enghraifft, roedd 'A Strategy for Rural Wales', a ysgrifennwyd gan Gyngor Cymru 50 mlynedd yn ôl ym 1971, yn trafod yr angen i fynd i'r afael ag allfudo pobl ifanc o gefn gwlad Cymru. Yn 2017, cododd Adam Price ei bryderon ef ynghylch y golled doniau sydd wedi ei gweld yng Nghymru, gan nodi bod Cymru yn y degfed safle o 12 rhanbarth y DU o ran y gyfradd o golli graddedigion, ac rwy'n cofio fy rhagflaenydd i Bethan Sayed yn gofyn sawl cwestiwn ynghylch hynny. Rwy'n gobeithio y gwnaiff y Gweinidog faddau i mi am ddweud ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru ar ei hôl hi yn hyn o beth.

Hoffwn i ofyn i'r Gweinidog i ba raddau y mae wedi ystyried y mater hwn eisoes ac a yw wedi ystyried yr enghraifft a roddwyd gan yr Alban neu beidio. Ac a fyddai ef yn cefnogi gwneud newidiadau i'r system cyllid myfyrwyr i greu cymhellion i ddawn aros yng Nghymru? Mae'n rhaid i mi ddweud hefyd fy mod i bob amser yn pryderu wrth weld terminoleg lac mewn datganiadau. Er enghraifft,

'archwilio sut rydym yn cadw ein graddedigion a'n doniau...drwy feithrin cysylltiadau cryf â phrifysgolion, a rhwng prifysgolion a busnesau'.

Mae'n beth canmoladwy iawn, ond nid oes unrhyw ymrwymiad gwirioneddol yma gan Lywodraeth Cymru. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gweld rhywfaint o gnawd ar yr esgyrn cyn bo hir. Ymrwymodd fy mhlaid i, yn y maes hwn, yn ein maniffesto yn yr etholiad diwethaf i sefydlu prosiect treialu i brofi dichonoldeb olrhain a chadw mewn cysylltiad â phobl ifanc sy'n gadael Cymru ar gyfer eu haddysg uwch neu gyflogaeth gychwynnol i sicrhau eu bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd cyfredol gartref a chreu cronfa ddata o dalent alltud. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i weithredu'r polisi hwn?

Mae pwynt 7 yn ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at symud economi Cymru ymlaen yn cynnwys

'sicrhau bod gennym gwmnïau...yng Nghymru sy'n gallu darparu cyfleoedd yn y dyfodol'.

Rwy'n falch bod y Llywodraeth yn cydnabod, os ydyn nhw wir yn dymuno darparu cyfleoedd i bawb yng Nghymru yn y dyfodol, y byddai angen iddyn nhw sicrhau mai'r cwmnïau sy'n darparu'r cyfleoedd hyn yw'r rhai y mae eu strwythur yn gwobrwyo gweithwyr a'r gymuned leol yn well nag y byddai strwythurau cwmnïau yn draddodiadol. Ni fydd y system bresennol o drachwant, mantais a gorelwa gan yr ychydig yn dileu tlodi yng Nghymru nac yn symud yr economi ymlaen. Os na newidiwn ni ddim, ni fyddwn yn symud dim; byddwn ni'n aros yn yr unfan.

Mae'n rhaid rhoi blaenoriaeth i ymagwedd tîm Cymru, sy'n cael ei hadeiladu gan bob un ohonom ni, a dylai'r Llywodraeth ystyried canolbwyntio ar gwmnïau cydweithredol a pherchnogaeth gweithwyr. Fel y dywedais i, rwy'n falch bod y Gweinidog yn cydnabod hyn. Ceir cydnabyddiaeth gyffredinol fod gan fodelau cydweithredol swyddogaeth hollbwysig, nid yn unig wrth fynd i'r afael â thlodi ond wrth gynnal twf economaidd. A fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried gweithio ar Fil datblygiad economaidd i Gymru, gyda mentrau cydweithredol a busnesau bach a chanolig wrth ei hanfod, yng ngoleuni hyn i gyd?

Yn olaf, Llywydd, rydym yn croesawu pwynt 8 yn ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at symud economi Cymru ymlaen, drwy dynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael drwy weithio o bell a chymudo hyblyg. Dylai Cymru ymdrechu i feithrin twf economaidd cynhwysol, a dylai Llywodraeth Cymru gefnogi cyflogwyr i barhau i gynnig trefniadau gweithio o bell a hyblyg, gan mai dyma un ffordd o fynd i'r afael â'r bwlch cyflogaeth i bobl anabl. Yn 2020, dim ond 53.7 y cant oedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl anabl, o'i gymharu ag 82 y cant ar gyfer pobl nad ydyn nhw'n anabl. Mae hyn yn niweidiol iawn, nid yn unig i unigolion, ond mae'n niweidiol i'r gymdeithas hefyd. Pan fydd economi yn un gynhwysol, ceir mwy o gynhyrchiant a thrafodaeth fwy amrywiol o ran syniadau ac arloesedd.

Am flynyddoedd cyn y pandemig, roedd ymgyrchwyr anabledd wedi bod yn pwyso ac yn dadlau dros fwy o hyblygrwydd a gweithio o bell, ac yn aml iawn, cawson nhw eu hatal. Ac eto, mae'r cyfnod clo wedi dangos y gellir gwneud y newidiadau hyn, ac yn gyflym iawn hefyd. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog am amlinelliad o sut yn union y bydd yn ceisio helpu i annog gweithio o bell a hyblyg yn barhaus? Ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld ymrwymiad i wythnos waith bedwar diwrnod, er enghraifft, yn y dyfodol agos. Fel y dywedais i eisoes, rwy'n falch o'r Gweinidog a'i ymgysylltiad â hyn, ond mae gennym ni daith hir eto os ydym ni'n awyddus i ddwyn economi Cymru hyd at lefel fwy cynaliadwy a theg.