Part of the debate – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 19 Hydref 2021.
Diolch i'r Aelod am ei sylwadau a'i gwestiynau. Rwyf i am ddechrau gyda'r pwynt y mae'n ei wneud ynglŷn â thalent a sut rydym am gynnig dyfodol gwirioneddol i bobl ifanc yng Nghymru, a'r pwynt cysylltiedig hefyd ynglŷn â'r rhai ar wasgar—y bobl hynny sydd wedi symud naill ai i fynd i brifysgol neu oherwydd cyfleoedd gwaith eraill, a'r cyfleoedd i'r bobl hynny fod yn rhan o ddyfodol Cymru yng Nghymru hefyd. Mae'n rhan o'r her yr ydym yn gwybod sydd gennym ni, ac mae'n arbennig o amlwg ar hyn o bryd oherwydd yr her ddemograffig sydd gennym ni. Mae'n bosibl y bydd gennym ni lai na chwech o bob 10 o bobl o oedran gweithio ym mhoblogaeth gyfan Cymru erbyn i ni gyrraedd y 2040au, ac mae honno'n her enfawr i ni.
Yn y gorffennol, byddai'r llwyddiant mawr sy'n ymhlyg yn y ffaith bod mwy ohonom ni'n disgwyl byw yn hŷn wedi bod yn her i mi ei hystyried yn y swydd sydd gan Eluned Morgan erbyn hyn—o ran yr heriau ar gyfer dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol, wrth i fwy ohonom ni ddisgwyl byw yn hirach. Ac fe wnaeth hynny yn wirioneddol ysgogi'r adolygiad seneddol a gawsom ni ar ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol ar ddechrau tymor diwethaf y Senedd. Ond mae hon, wrth gwrs, yn her economaidd sylweddol iawn i ni hefyd. Mae'n ymwneud â sut y byddwn yn sicrhau dyfodol i bobl sydd yma eisoes yn ogystal â dymuno buddsoddi yn eu dyfodol cyfan yma yng Nghymru rywbryd hefyd.
Felly, mae graddedigion yn rhan o'r hyn yr ydym ni'n ei ystyried, ac, ydym, rydym ni'n edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban. Rwyf i wedi cael trafodaethau eisoes gyda'r Gweinidog addysg am y potensial i greu cymhellion i raddedigion aros yma, y bobl sy'n graddio o brifysgol yng Nghymru—. Ac mae gennym ni ormodedd o raddedigion yr ydym ni'n eu cynhyrchu yng Nghymru; rydym ni'n allforiwr net o raddedigion. I rai o'r bobl hynny sydd wedi byw ac astudio yng Nghymru, am o leiaf dair blynedd neu fwy fel arfer, i ddymuno iddyn nhw aros—. Rydym ni wedi trafod ychydig o ran graddedigion meddygol a gofal iechyd. Mewn gwirionedd, mae angen i ni gael trafodaeth ehangach ynglŷn â'r mathau o gymhellion y gallem ni eu cyflwyno mewn ffordd gynaliadwy yma yng Nghymru i annog pobl i aros, ond i ddenu pobl o'r tu allan i Gymru hefyd i fod yn rhan o'n stori ni hefyd. Rwy'n credu bod hwnnw'n gyfle cyffrous iawn—i fod ag ymrwymiad ehangach a strategol i wneud hynny, yn ogystal â helpu pobl i ddechrau eu busnesau eu hunain.
Nawr, ni fyddwn i'n dweud ei bod hi'n deg nodweddu hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru newydd ei amgyffred. Rydym ni wedi bod ag amrywiaeth o wahanol ymyriadau i helpu i gadw pobl mewn cyflogaeth, addysg a hyfforddiant yn y gorffennol. Mae hyn yn cydnabod pa mor ddifrifol yw'r cam erbyn hyn, yn sgil yr her ddemograffig sydd gennym ni ac, wrth gwrs, yr adferiad y mae angen i ni ei weld wrth i ni, gobeithio, ddod i ddiwedd y pandemig hwn yn ystod y misoedd nesaf.
Fodd bynnag, bydd mwy o waith i ni ei wneud gyda'n partneriaid, pan gawn ni ganlyniad yr adolygiad o wariant. Felly, mwy o sicrwydd ar amrywiaeth o feysydd gwario, nid dim ond yr arian yn lle'r hyn a arferai ddod o'r Undeb Ewropeaidd, ond y gallu i gael sgwrs gyda'n partneriaid hefyd. Felly, bydd grwpiau busnes, busnesau, llywodraeth leol, ac undebau llafur yn dod yn eu holau gyda'r Llywodraeth, byddwn yn siarad dros y cyfnod nesaf hwn, ac yn edrych wedyn i gytuno ar fwy o fanylion yn ein cynllun ar gyfer y dyfodol. Felly, gallwch chi ddisgwyl clywed mwy ar ôl y digwyddiad hwnnw, ond yn fwy wrth i ni ddysgu am yr hyn a fydd yn llwyddo. Felly, oes, mae rhagor o ymyriadau polisi i'w cwblhau—rydych chi'n iawn i dynnu sylw at hynny o'r datganiad—ond ni fyddwn i â golwg besimistaidd ar hyn gan feddwl oherwydd nad oes dogfen fanwl o 100 tudalen yn barod ar hyn o bryd, fod hynny'n golygu nad oes yna ddim a all ddigwydd neu na fydd yna ddim yn digwydd. Rwy'n fwy na pharod i siarad ag ef am hynny ac, yn wir, â llefarydd y Ceidwadwyr wrth i ni weithio drwy hyn yn y misoedd nesaf.
O ran y pwynt ynglŷn â chwmnïau cydweithredol, wrth gwrs, fe fydd dadl yfory. Rwy'n gwybod bod yna Aelod ychydig y tu ôl i mi ac i'r dde sy'n awyddus i bledio'r achos dros ddeddfwriaeth, ond mae'n rhan o'r hyn y mae'r Llywodraeth hon yn ei gydnabod am y cyfle sydd yno i gynyddu maint yr economi gydweithredol. Mae gennym ni ymrwymiad yn ein maniffesto i ddyblu maint yr economi gydweithredol o fewn y tymor Senedd hwn, ac rwyf i o ddifrif yn fy mwriad i wneud hynny.
Ac o ran cyflogaeth i'r anabl ac nid cyflogaeth i'r anabl yn unig, ond yn fwy felly'r cyfleoedd i weithio o bell, dyma rywbeth yr ydym ni i gyd wedi ei weld yn cynyddu ar ei ganfed yn ystod y pandemig ac mae hwn yn gyfle arall i Gymru. Roedd gennym ni ymrwymiad eisoes ar ddiwedd y tymor Senedd diwethaf i gynyddu nifer y bobl sy'n gallu gweithio o bell. Mae'r pandemig wedi cyflymu'r duedd honno yn wirioneddol wrth i fwy o bobl, o anghenraid, ymgyfarwyddo â gweithio mewn lleoliad arall, gan fod mwy o bobl wedi newid eu barn eto ar y cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd y tu allan i'r gwaith, a sut y maen nhw eisiau byw a gweithio, o ran cymudo, neu beidio â chymudo, ond yr hyn y mae hynny'n ei olygu wedyn hefyd o ran natur newidiol y byd gwaith. A dyma fan lle mae'r canolfannau yr ydym ni'n eu datblygu yn rhan o'r ateb, ond mae'r busnesau eu hunain, yn aml drwy gydweithio ag undebau llafur sy'n dymuno gweld setliad yn hyn o beth hefyd, yn cydnabod y gallan nhw gael mwy o enillion cynhyrchiant i'w gweithlu drwy weithio mewn ffordd wahanol. Ond hefyd, i rai pobl, fe all hyn wella eu perthynas â'r byd gwaith hefyd.
Cefais fy nharo yn fawr gan sgwrs a gefais i ag undeb llafur sy'n trefnu yn y sector preifat, a dywedodd un o'u huwch drefnwyr wrthyf i eu bod nhw wedi gweld gostyngiad sylweddol yn yr honiadau o fwlio ac aflonyddu ar bobl drwy gyfnod y pandemig. Wrth i bobl ddychwelyd i weithio mewn dull mwy arferol ond gyda model hybrid yn parhau i fod ar waith, mae hynny'n gwella eu bywyd yn y gwaith yn ogystal â'r tu allan iddo i lawer o bobl, yn ogystal â'r ffordd y mae pobl yn ymddwyn tuag at ei gilydd. Felly, ceir cyfleoedd gwirioneddol yn ogystal â heriau wrth wneud hyn, ond rwyf i'n obeithiol y gall y cyfnod hwn o newid fod yn un adeiladol iawn i Gymru os gall pob un ohonom ni gytuno ar yr hyn yr ydym ni am ei wneud i achub ar y cyfle.