Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 19 Hydref 2021.
Diolch i chi am y cwestiynau yna. Mewn gwirionedd, mae'r her o ran cynhyrchiant yn fater i bob economi fodern, ac mae'n rhan o'r rheswm pam mae buddsoddi mewn talent mor bwysig. Oherwydd heb i chi allu newid systemau gweithio, neu oni bai y gallwch chi gynyddu gallu unigolion i wneud eu gwaith yn well neu'n gynt, bydd yr her o ran cynhyrchiant yn parhau i bob un ohonom ni ym mhob sector, bron â bod. Felly, dyna pam mae angen i ni gael rhywfaint o sefydlogrwydd wrth fuddsoddi mewn sgiliau, ymchwil a datblygu, ac arloesi. Os na allwn ni gynhyrchu mwy yn y meysydd hynny, yna, mewn gwirionedd, byddwn ni'n ei chael hi'n wirioneddol galed i weld gwelliant o ran cynhyrchiant.
Yn ystod datganoli, rydym ni wedi gweld cynnydd o ran cynhyrchiant, ond ein her ni yw pa un a yw hyn wedi bod yn ddigon cyflym a pha un a yw hyn yn cymharu â gweddill y DU, yn enwedig â rhanbarth de-ddwyrain Lloegr, heb sôn am y gallu i ddal i fyny a chyrraedd pwynt lle gwelwn ni'r her sydd gennym ni nid yn unig o ran cynhyrchiant, a beth mae hynny'n ei olygu i gyflogau a ffyniant i deuluoedd unigol, ond o ran cymunedau hefyd. Ac mae'n debyg bod hynny'n cyffwrdd â'ch pwynt chi ynglŷn â'r hyn y mae economi sy'n fwy cryf, gwyrdd, a theg yn ei olygu.
Wel, y perygl yw ein bod ni bob amser—. Y ffordd yr ydym ni'n ymgyrchu, a'r ffordd y mae'n rhaid i ni weithredu yn y Llywodraeth wedyn, rydych chi'n gweld llawer mwy o'r arlliw a'r manylder yn dod i'r amlwg wrth weithredu. Byddwn i'n dweud y bydd economi gryfach yn un fwy cadarn hefyd, lle rydym ni'n gwneud mwy na gwella'r cyfraddau ar gyfer talu cyflogau, ond lle mae tegwch yn rhan o'r cyflogau hefyd, a ble caiff y cyflogau hynny eu talu, ac i bwy, hefyd, i sicrhau na welwn ni rai o'r anghydraddoldebau strwythurol sydd gennym ni eisoes.
Mae angen i ni hefyd, o ran tegwch, ystyried dynion a menywod yn y gweithle. A'r her wahanol sydd gennym ni yw'r heriau croestoriadol sy'n ein hwynebu ni. Mae rhywun sy'n edrych fel fi yn y wlad hon yn debygol o ennill llawer llai na rhywun sy'n edrych fel yr Aelod, ac nid yw hynny oherwydd bod gan rywun sy'n edrych fel fi lai o dalent. Felly, mae angen i ni gydnabod hynny yn y ffordd y mae ein heconomi ni'n gweithio yn fwy eang ac yn fwy cyffredinol.
Ac o feddwl am eich dadl fer chi a'ch pwyslais ar gyflawni a sicrhau bod rhywbeth yn digwydd, os na allwn ni weld cam sylweddol ymlaen yn ystod y tymor hwn a thu hwnt yn ardal Blaenau'r Cymoedd, ni fyddwn yn gwireddu ein huchelgeisiau ar gyfer dyfodol y wlad: yr economi gryfach, wyrddach a thecach honno yr ydym ni yn awyddus i'w gweld.
Felly, o ran y trafodaethau yr wyf i wedi eu cael eisoes gyda phartneriaid rhanbarthol: y cyd-bwyllgorau corfforaethol newydd, y strwythurau rhanbarthol newydd y mae pawb wedi ymrwymo iddyn nhw, beth fyddan nhw'n ei gyflawni? A fyddwn ni'n gweld gwybodaeth yn cael ei rhannu am le mae dewisiadau y bydd yr ardaloedd rhanbarthol hynny'n eu gwneud nhw drostyn nhw eu hunain, heb Lywodraeth Cymru, ardaloedd lle mae partneriaethau gwirioneddol a dealltwriaeth glir o bwy sy'n gyfrifol am beth a phwy fydd yn bwrw ymlaen ac yn cyflawni hynny? Ac mae'n siŵr y bydd yr Aelod yn dod yn ei ôl ac yn dweud, 'Wel, beth sy'n digwydd yn fy nghymuned i? Beth sy'n digwydd yn ardal Blaenau'r Cymoedd? A ydw i'n gweld fy nghymuned i'n mynd yn fwy ffyniannus mewn gwirionedd? A yw amodau economaidd-gymdeithasol y bobl yr wyf i'n eu cynrychioli yn gwella ai peidio?' Dyna'r prawf yr wyf i'n gwybod y bydd yr Aelod yn ei roi, ac rwy'n edrych ymlaen at gael y drafodaeth honno gydag ef.