Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 19 Hydref 2021.
Gweinidog, mae'r weledigaeth ar gyfer economi Cymru wedi'i nodi'n glir gennych o dan ymbarél 'tîm Cymru'. Felly, Gweinidog, wrth inni nesáu at strategaeth ddi-garbon y DU a'i hystyried wrth agosáu at COP26, beth yw'r heriau, a beth yw'r rhwystrau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu er mwyn parhau i greu dyfodol tecach, cryfach a gwyrddach i'r holl bobl sy'n ystyried Islwyn yn gartref?