10. Dadl Fer: Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru: Datblygu pobl ifanc gydwybodol yng nghefn gwlad Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:31 pm ar 20 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 6:31, 20 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Diolch yn fawr iawn, Sam Kurtz, am ddewis pwnc mor wych ar gyfer eich dadl fer gyntaf. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau eraill am eu cyfraniadau hefyd.

Drwy eu gweithgareddau, mae clybiau ffermwyr ifanc Cymru yn cynnig cyfleoedd unigryw i bobl ifanc ddatblygu eu huchelgeisiau, eu sgiliau a'u hyder, a gwyddom fod yr ymddygiadau hyn yn gwbl amhrisiadwy wrth iddynt chwilio am waith, datblygu neu gymryd meddiant ar fusnes ffermio sefydledig neu geisio dechrau mentrau newydd—neu ddod yn Aelod o'r Senedd yn wir, fel y clywsom heddiw gan rai o'n Haelodau newydd yn enwedig.

Rwy'n credu bod Sam wedi gwneud pwynt pwysig iawn pan ddywedodd fod clybiau ffermwyr ifanc yn gyfrinach braidd, weithiau, y tu allan i'r sector amaethyddol neu ein cymunedau cefn gwlad. Ni allaf ddweud fy mod erioed wedi bod yn aelod o CFfI, ond rwy'n cofio—rwy'n ceisio meddwl—tua 46 mlynedd yn ôl, mae'n debyg, cael fy llusgo i ddisgo lleol wedi'i gynnal gan glwb ffermwyr ifanc, ac yn wir, fe wnaeth y ffrind a'm llusgodd i yno ddod o hyd i'w gŵr yn y disgo y noson honno. 

Ddydd Llun, dechreuodd fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, sgwrs am yr heriau demograffig hirdymor sy'n wynebu economi Cymru a'r angen i gefnogi ein pobl ifanc i wneud eu dyfodol yng Nghymru. Felly, hoffwn dawelu meddwl Sam, oherwydd cyfeiriodd at hynny, fod rôl CFfI Cymru yn ein helpu i gyflawni'r un peth, ac wrth symud ymlaen, credaf y bydd yn amhrisiadwy i ni. 

Mae ein rhaglen lywodraethu yn ein hymrwymo i wireddu ein gwarant i bobl ifanc, rhaglen uchelgeisiol a fydd yn anelu at roi cymorth i bobl ifanc o dan 25 oed yng Nghymru gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, neu gymorth i gael gwaith neu ddod yn hunangyflogedig. Mae gan Gymru lawer o'r cydrannau eisoes ar waith i ddarparu'r sylfaen ar gyfer gwarant dda i bobl ifanc. Mae gan bobl ifanc amrywiaeth eang o raglenni at eu defnydd sy'n cynnwys hyfforddeiaethau, ReAct, rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol, cymorth dechrau busnes a chyfrifon dysgu personol, ac mae partneriaid fel CFfI Cymru yn chwarae rhan allweddol yn cynorthwyo ein pobl ifanc i fanteisio ar gyfleoedd o'r fath drwy'r warant.

Fel Llywodraeth, rydym hefyd wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant entrepreneuraidd, a thrwy Syniadau Mawr Cymru, rydym am ysbrydoli pobl ifanc i fod yn fentrus a'u helpu ar eu taith i ddechrau busnes. Gan weithio gyda'r CFfI, mae Syniadau Mawr Cymru wedi darparu modelau rôl ysbrydoledig ar gyfer cyfarfodydd lleol, i ddarparu cyngor a chymorth busnes i'w haelodau sydd am ddechrau busnes. Yn yr un modd, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn parhau i roi cymorth i newydd-ddyfodiaid a'r rhai sydd am ymuno â'r diwydiant amaethyddol. Mae pobl ifanc sy'n ymuno â'r diwydiant yn sicrhau bod y sector amaethyddol yn parhau'n egnïol, gan sicrhau cyfleoedd cyflogaeth fel y gall pobl ifanc aros yn eu cymunedau cefn gwlad. Os ydym am gynnal cymunedau hyfyw a ffyniannus, mae'n hanfodol fod gan bobl ifanc hyder i gyflawni eu huchelgeisiau yn eu cymunedau cefn gwlad.

Cyfeiriodd Sam at bwysigrwydd hyn i'r Gymraeg ac nid wyf yn credu y gellir ei orbwysleisio, gyda dyfodol yr iaith a'n targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ynghlwm wrth gymunedau gwledig ffyniannus. Mae adran y Gymraeg yn rhoi grant cyllid craidd o bron i £125,000 i CFfI Cymru i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg o fewn eu rhaglen weithgareddau. Mae'r cyllid hwn yn rhoi dros £63,000 i swyddfa CFfI Cymru i gefnogi eu cynlluniau cenedlaethol ac i gyflogi swyddog datblygu'r Gymraeg sy'n gyfrifol am greu cyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio'r Gymraeg, yn ogystal â chynorthwyo eu haelodau i ddod yn siaradwyr Cymraeg newydd. Caiff y £62,000 sy'n weddill ei ddosbarthu i bob un o'r ffederasiynau sirol, i'w wario ar weithgareddau penodol i gefnogi'r defnydd o'r iaith ym mhob sir.

Rydym i gyd yn gwybod pa mor arwyddocaol yw rôl y CFfI ym mywydau ein pobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru—yn enwedig y camau y mae wedi'u cymryd yn y blynyddoedd diwethaf i godi ymwybyddiaeth a lliniaru effeithiau problemau iechyd meddwl ymhlith eu haelodau. Fel aelod o bartneriaeth diogelwch fferm Cymru, gwn fod y sefydliad wedi gweithio'n galed i leihau nifer y marwolaethau a damweiniau ar ffermydd drwy sicrhau bod ei aelodau'n ymwybodol o sut i leihau risgiau a hefyd sut i newid ymddygiad.

Pan gefais ohebiaeth gan y CFfI yr haf diwethaf am y pandemig a'r effaith ariannol ar y sefydliad, gofynnais i fy swyddogion gyfarfod â chynrychiolwyr y sefydliad i archwilio ffyrdd posibl o roi cymorth. Roeddwn yn falch o glywed bod CFfI wedi llwyddo yn eu cais i gronfa cydnerthedd diwylliannol Llywodraeth Cymru, ac wedi cael dros £130,000 yn 2020, gyda £87,000 arall wedi'i ddyfarnu eleni.

Mae brwdfrydedd ac ymroddiad pobl ifanc i amaethyddiaeth Cymru a'n cymunedau gwledig ehangach yn ysbrydoledig. Fel y clywsom, nid oes enghraifft well o hyn nag yn ystod y pandemig. Er bod y cyfyngiadau COVID angenrheidiol yn golygu na allai clybiau gyfarfod wyneb yn wyneb, roeddent yn parhau i gysylltu â'i gilydd a chyfarfod ar-lein. Cefnogent eu cymunedau lleol drwy gynorthwyo a chefnogi pobl a oedd wedi'u hynysu a thrwy helpu gweithwyr allweddol.

Mae aelodau CFfI yn glod i'w teuluoedd, eu clybiau a chymunedau gwledig ehangach. Rwy'n falch ein bod, fel Llywodraeth, yn parhau i gefnogi'r sefydliad, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd CFfI Cymru, yn yr un modd, yn parhau i gefnogi ein pobl ifanc sydd â chariad at amaethyddiaeth a bywyd gwledig am flynyddoedd lawer i ddod. Edrychaf ymlaen at lawer mwy o ymweliadau difyr a hwyliog ag aelodau CFfI dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Diolch yn fawr iawn.