Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 20 Hydref 2021.
Diolch, Weinidog. Yn ystod un o gyfarfodydd diweddar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, datgelwyd mai 4.2 y cant yn unig o'r staff a gyflogir yn y Senedd sy'n nodi eu bod yn Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Nawr, o'r staff—a maddeuwch i mi am ddweud hyn, ond mae'n well gennyf y term 'ethnig leiafrifol', felly dyna rwyf am ei ddefnyddio yn fy nghwestiwn—ethnig leiafrifol hynny, mae 81 y cant yn y ddau fand cyflog isaf. O ystyried dymuniad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y sector cyhoeddus yn gynhwysol ac yn adlewyrchu amrywiaeth ethnig Cymru, a ydych yn cytuno y dylai'r Senedd arwain drwy esiampl, a pha drafodaethau a gawsoch ynglŷn â chynyddu nifer yr unigolion ethnig leiafrifol mewn rolau uwch yma yn y Senedd ei hun?