Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 20 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 1:45, 20 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Weinidog, yn dilyn y cwestiwn blaenorol, efallai y byddwch yn cofio fy mod wedi ysgrifennu atoch yn gynharach yr haf pan ddaeth y newyddion gyntaf am y codiadau mewn tariffau tanwydd. Rhybuddiais bryd hynny am yr effeithiau y byddai hyn yn eu cael ar gyllidebau aelwydydd, yn enwedig yng ngoleuni penderfyniad y Llywodraeth Dorïaidd i fwrw ymlaen â chael gwared ar yr ychwanegiad i'r credyd cynhwysol, er eu bod yn ymwybodol o'r niwed y byddai hynny'n ei achosi. Rydym yn y sefyllfa hon yn rhannol oherwydd blerwch y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan yn methu buddsoddi mewn capasiti storio nwy, gan wneud y DU yn arbennig o agored i siociau allanol. I mi, mae hyn yn tanlinellu cynlluniau Plaid Cymru i sefydlu cwmni ynni yma yng Nghymru a fyddai’n cynyddu ein gwytnwch ac yn lleihau ein dibyniaeth ar rymoedd allanol. Does bosibl nad yw'r ychydig fisoedd diwethaf wedi dweud wrthym na allwn ddibynnu ar San Steffan gyda'r cyflenwad ynni. A yw cynyddu ein hannibyniaeth ynni'n rhywbeth sy'n cael ei ystyried yn weithredol er mwyn mynd i’r afael â thlodi tanwydd a phrisiau afresymol? Ac os nad ydyw, pam ddim?