Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 20 Hydref 2021.
Diolch, a diolch am fwrw ymlaen â hynny. Yn ddiweddar, cyflwynais ddadl ar gamddefnyddio sylweddau. Yn ystod y ddadl honno, nododd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant fod dull y Llywodraeth o ymdrin â phroblemau camddefnyddio sylweddau yn canolbwyntio ar iechyd a lleihau niwed. O gofio hyn, sut y mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu ac yn ymgysylltu â hwy i sicrhau bod y dull hwn yn cael ei drosi'n weithredu gyda'r heddlu ar lawr gwlad? Yn benodol, sut y mae'r Llywodraeth a'r comisiynwyr heddlu a throseddu'n cynorthwyo swyddogion i nodi problemau camddefnyddio sylweddau neu gaethiwed ac i ymateb yn briodol yn unol â'r dull iechyd a lleihau niwed?