Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 20 Hydref 2021.
Rydyn ni'n parhau i weithio mewn partneriaeth â'r GIG, yr heddlu a'r trydydd sector i ddarparu mynediad at ganolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol yng Nghymru. Mae cydweithio fel hyn yn sicrhau bod y rheini sy'n dioddef ymosodiadau rhywiol yn cael cymorth, cefnogaeth a chyngor gan weithwyr proffesiynol profiadol, sydd wedi cael yr hyfforddiant priodol.