Gwasanaethau Bancio Cymunedol

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 20 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 1:58, 20 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi undebau credyd sy'n darparu gwasanaeth bancio cymunedol amgen. Rydym hefyd yn gweithio gyda LINK, sy'n gweithredu rhaglen cynhwysiant ariannol i ddiogelu mynediad am ddim at arian parod i bawb, ond yn enwedig y rheini mewn cymunedau mwy difreintiedig lle ceir mwy o ddibyniaeth ar arian parod.