Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 20 Hydref 2021.
I ddilyn pwyntiau Russell a Rhun, mae bancio cymunedol yn ymwneud â phresenoldeb ar y stryd fawr, ac rydym wedi gweld mwy a mwy o fanciau’n diflannu oddi arnynt dros yr ychydig flynyddoedd, os nad degawdau, diwethaf. Mae hefyd yn ymwneud â mynediad rhad ac am ddim at fancio i grwpiau cymunedol ac elusennau. Gwelsom mai HSBC yw’r banc diweddaraf i fachu'r arian a diflannu, ac nid yw'n ddigon da. Felly, gofynnaf i'r Gweinidog gyflwyno’r sylwadau cryfaf. Oherwydd cefais ymateb HSBC i fy llythyr atynt; maent wedi egluro’r rhesymau masnachol pam ei bod yn hanfodol nad ydynt yn darparu bancio am ddim i'r sefydliadau elusennol a chymunedol hyn mwyach. Nid yw hynny'n ddigon da, ac nid hwy yw'r unig rai i wneud hyn. Felly, a wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i gyflwyno’r sylwadau cryf hynny i HSBC? Efallai y byddant yn gwrando, efallai ddim. Ond os na wnânt, byth etholwyr uniongyrchol i mi ac eraill, pobl sy'n credu mewn bancio moesegol am ddim i elusennau a grwpiau cymunedol—gallai fod yn undebau credyd, fel Achubwyr Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr neu undeb credyd Maesteg; mae yna fanciau eraill a chymdeithasau adeiladu a fydd yn fodlon ei wneud—os ydynt yn bachu'r arian ac yn diflannu, gadewch inni bleidleisio â'n traed a gwneud iddynt hwy ddioddef hefyd.