Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 20 Hydref 2021.
Weinidog, yn ôl tystiolaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ceir rhai heriau i fynd i'r afael â hwy. Dywedodd Karen Davies o Purple Shoots, darparwr Cyllid Cyfrifol, fod lefel ymwybyddiaeth o'r gronfa'n isel ac nad yw'n cael ei hyrwyddo'n dda, a nododd Shelter Cymru eu bod wedi gweld nifer sylweddol o geisiadau i'r gronfa cymorth dewisol yn cael eu gwrthod, llawer ohonynt oherwydd cap ar nifer y ceisiadau y gall pobl eu gwneud. A yw'r Gweinidog yn derbyn bod angen mynd i'r afael â'r materion hyn os yw pobl yn mynd i elwa o'r cynllun? Diolch.