Gwasanaethau Bancio Cymunedol

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 20 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:02, 20 Hydref 2021

Mae o'n bryder mewn llawer rhan o Gymru ac i lawer o fudiadau bod y sector fancio i'w gweld yn troi eu cefnau ar fudiadau cymunedol. Rydyn ni'n gwybod bod HSBC yn mynd i ddechrau codi ffi am gyfrifon cymunedol. Mae o'n rhywbeth y mae sawl un wedi cysylltu efo fi ynglŷn ag o—Merched y Wawr, er enghraifft, ac eisteddfodau lleol. Dwi'n annog pawb i arwyddo deiseb gan yr Aelod o'r Senedd a'r Aelod o Senedd Prydain dros Ddwyfor Meirionnydd yn galw ar y banciau i newid eu meddwl ar hyn.

Os ydy'r banciau am droi eu cefnau ar y cymunedau sy'n rhoi eu helw iddyn nhw, gadewch i ni fuddsoddi mwy mewn dulliau bancio amgen. Mae undebau credyd yn un model. Rydw innau hefyd yn gwybod bod Banc Cambria yn eiddgar i gynnig y math yma o becyn i fudiadau cymunedol. Ydy Llywodraeth Cymru wedi trafod efo'r criw y tu ôl i Banc Cambria y posibilrwydd o gynnig y pecyn yma a fyddai o gymaint o help i fudiadau? Hefyd, dwi yn disgwyl ymateb gan y Financial Conduct Authority i ohebiaeth gen i yn galw arnyn nhw i edrych i mewn i'r mater yma. Ydy Llywodraeth Cymru hefyd wedi trafod efo nhw neu'n ystyried gwneud hynny ar ran mudiadau cymunedol Cymru?