Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 20 Hydref 2021.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Yn ôl cyhoeddiadau diweddar Llywodraeth y DU ar y gronfa gymorth i aelwydydd, fel y nododd y Gweinidog, bydd fformiwla Barnett yn gymwys yn y ffordd arferol, sy'n golygu y bydd gweinyddiaethau datganoledig yn cael hyd at £79 miliwn o'r £500 miliwn hwnnw. Ac i Gymru, mae hynny'n golygu mai dim ond £25 miliwn a gawn, fel y dywedoch chi. Hyn, wrth gwrs, pan fo dadansoddiad Sefydliad Joseph Rowntree o ystadegau Llywodraeth y DU yn dangos mai Cymru sydd â'r canrannau tlodi uchaf yn y DU yn gyson. A all y Gweinidog nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio blaenoriaethu'r cyllid hwnnw gan Lywodraeth y DU hyd eithaf ei gallu? Ac a all y Gweinidog roi diweddariad inni ynglŷn â pha bryd y mae'r Llywodraeth yn pwyso am ddatganoli lles? Mae gennym enghraifft arall yma i ddynodi pam na allwn adael y wladwriaeth les yn nwylo Llywodraeth y DU.