Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 20 Hydref 2021.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn, unwaith eto ar bwnc pwysig iawn. Mae diogelwch ein cymunedau yn hollbwysig ac rydym yn parhau i weithio'n gyflym i fynd i'r afael â diogelwch tomenni glo. Mae'r Awdurdod Glo ac awdurdodau lleol yn cynnal archwiliadau rheolaidd ar y tomenni glo risg uwch ac yn sicrhau bod unrhyw waith cynnal a chadw arall yn cael ei nodi.