Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 20 Hydref 2021.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n cytuno â mi ar draws y meinciau yn y Siambr fod toriadau i gymorth cyfreithiol gan Lywodraeth y DU yn golygu ei bod yn anos i bobl gyffredin gael mynediad at gyfiawnder. Rwy'n siŵr fod Aelodau o bob rhan o'r Siambr yn cytuno â mi na ddylai mynediad at gyfiawnder fodoli ar gyfer y cyfoethog yn unig. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu sefydliadau i ddarparu cyngor cyfreithiol, ac mae hyn yn achubiaeth wirioneddol i lawer, ac mae'n hanfodol fod yr arian hwnnw'n cael ei wario'n effeithlon. Nawr, Gwnsler Cyffredinol, argymhellodd yr adroddiad 'Cyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru', ac rwy'n dyfynnu:
'Dylai'r cyllid ar gyfer cymorth cyfreithiol a'r trydydd sector sy'n rhoi cyngor a chynhorthwy gael ei ddwyn ynghyd yng Nghymru i ffurfio un gronfa o dan gyfeiriad strategol corff annibynnol.'
Gwnsler Cyffredinol, a ydych yn cytuno â'r argymhelliad hwnnw ac os felly, pa mor gyflym y gallwn weithredu'r argymhelliad hwn?