Part of the debate – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 20 Hydref 2021.
Diolch yn fawr, Lywydd. Mae'r argyfwng hinsawdd yn golygu bod yn rhaid inni newid y ffordd y teithiwn. Mae 17 y cant o allyriadau carbon Cymru yn cael eu cynhyrchu gan drafnidiaeth, ac fel y mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU yn ei nodi'n glir, ni fydd newid i geir trydan yn unig yn cyflawni targed sero-net 2050. Mae angen inni leihau nifer y teithiau a chael pobl i newid i fathau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth hefyd.
Rydym yn llwyr gydnabod nad yw hyn yn mynd i fod yn hawdd. Ers tua 70 mlynedd, mae polisi trafnidiaeth yn y DU wedi ffafrio teithio mewn ceir dros drafnidiaeth gyhoeddus, ac o ganlyniad, mae'n haws bellach i'r rhan fwyaf o bobl ddefnyddio ceir na chynllunio taith gan ddefnyddio mathau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth. Mae'n rhaid i hynny newid. Ond er mwyn i hynny ddigwydd, mae'n rhaid inni sicrhau mai'r peth iawn i'w wneud yw'r peth hawsaf i'w wneud.
Mae ein strategaeth drafnidiaeth yng Nghymru yn nodi'r camau y mae'n rhaid i ni eu cymryd i gyflawni ein targed o 45 y cant o deithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus neu drwy deithio llesol erbyn 2040. Rydym yn anelu at gyhoeddi strategaeth fysiau newydd oddeutu diwedd eleni, a Phapur Gwyn i ddilyn, a Bil diwygio bysiau yn ystod tymor y Senedd hon.
Ein buddsoddiad mewn teithio llesol ar gyfer teithiau lleol byr yw'r buddsoddiad uchaf y pen yn y DU, ac rydym yn gweithio gyda chynghorau i nodi rhwydweithiau lleol diogel a fydd yn annog pobl i adael y car gartref a cherdded neu feicio yn lle hynny. Mae 10 y cant o deithiau car o dan 1 filltir o hyd, a gellid gwneud llawer o'r teithiau hynny ar droed neu ar feic.
Ar gyfer teithiau canolig a phell, mae gan reilffyrdd ran bwysig i'w chwarae. Mae angen gwneud iawn am y diffyg o £5 biliwn mewn buddsoddiad rheilffyrdd gan Lywodraeth y DU er mwyn moderneiddio ein rhwydwaith. O'n rhan ni, rydym wedi dod â masnachfraint Cymru a'r gororau o dan reolaeth gyhoeddus ac rydym yn gweithio'n galed i'w sefydlogi ar ôl y cwymp yn nifer y teithwyr yn ystod COVID. Wrth inni gynllunio adferiad y rheilffyrdd, rhaid ei wneud ochr yn ochr â'r dulliau cynaliadwy eraill, fel y gall pobl gwblhau eu taith gyfan, o ddrws i ddrws, drwy drafnidiaeth gynaliadwy.
Mae comisiwn Burns yn ne-ddwyrain Cymru wedi gosod glasbrint ar gyfer sut y gellir gwneud hynny, ac rydym am ymestyn y dull gweithredu hwnnw i gynnwys rhannau eraill o Gymru. Yn fwyaf arbennig, rwyf am efelychu'r model lle mae Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru wedi ffurfio un uned gyflawni ar y cyd â'r awdurdodau lleol, a bwrdd cyflawni annibynnol a sefydlwyd i hybu perfformiad a sicrhau cynnydd. Rwy'n falch fod Simon Gibson a Dr Lynn Sloman, ill dau'n nodedig am eu ffocws ar gyflawni, yn gwasanaethu fel cadeirydd ac is-gadeirydd y bwrdd cyflawni yn ne-ddwyrain Cymru.
Lywydd, gallaf gyhoeddi fy mod wedi gofyn i fy swyddogion greu dull cydweithredol tebyg yng ngogledd Cymru hefyd. Byddwn yn creu bwrdd cyflawni metro gogledd Cymru, a byddaf yn hysbysebu am gadeirydd ac is-gadeirydd annibynnol i sicrhau ein bod mor uchelgeisiol â phosibl ac i ddwyn partneriaid cyflenwi i gyfrif, gan gynnwys ein hunain. Hoffwn hefyd weld y model partneriaeth, cyd-gynllunio a rhannu arweinyddiaeth yn cael ei fabwysiadu gan y pedwar cyd-bwyllgor corfforedig ledled Cymru wrth iddynt fynd i'r afael â'u cyfrifoldeb dros gynllunio trafnidiaeth ranbarthol dros dymor y Senedd hon.
Mae'r dystiolaeth o bob cwr o'r byd yn awgrymu, os ydych am i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mae angen iddi fod yn hawdd ei defnyddio. Mae angen gallu 'cyrraedd a gadael', fel petai, a dyna'r egwyddor gynllunio sydd wrth wraidd ein rhaglen metro: gwasanaethau di-dor, rheolaidd sy'n cysylltu pobl â chyrchfannau allweddol, ac rydym wedi ymrwymo dros £1 biliwn i'n tair rhaglen metro. Mae pob un ar wahanol gamau o'u datblygiad a heddiw rydym yn cyhoeddi mapiau wedi'u diweddaru sy'n dangos yr uchelgais cyfredol.
Yn y de-ddwyrain, mae gwaith adeiladu sylweddol eisoes ar y gweill, ac yn yr ychydig flynyddoedd nesaf, byddwn yn gweld mwy a mwy o dystiolaeth ffisegol o un o'r prosiectau seilwaith mwyaf uchelgeisiol i'w gynnal yng Nghymru yn y cyfnod modern. Bydd gorsaf fysiau newydd wrth ymyl y brif orsaf reilffordd yn cael ei chodi yng Nghaerdydd. Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo dros yr haf ar linell graidd y Cymoedd i'w pharatoi ar gyfer trenau tram newydd. Erbyn 2024, bydd trenau tram newydd yn cynnig gwasanaethau 'cyrraedd a gadael' cyflym mewn oddeutu 50 o orsafoedd ar rwydwaith Llywodraeth Cymru, yn ogystal â gwasanaethau newydd sy'n cael eu cynllunio i ddyblu'r amlder ar reilffordd Glynebwy drwy Fro Morgannwg, ac i Faesteg.
Yng ngogledd Cymru, rydym wedi gosod y sylfeini ar gyfer gwasanaeth rheilffyrdd a bysiau gwell o lawer a theithio llesol drwy ein cyhoeddiad o werth £50 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru. Yn ddiweddar, gwelais drosof fy hun y cynlluniau yng ngorsaf Wrecsam Cyffredinol i'w gwneud yn haws i newid rhwng trên a bws, gan helpu'r cysylltiadau rhwng rheilffordd arfordir gogledd Cymru a gwasanaethau amlach lein y Gororau o'r flwyddyn nesaf yn Shotton, ynghyd â gorsaf newydd ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy.
Rydym wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru ymgymryd â'r gwaith o ddatblygu metro bae Abertawe a gorllewin Cymru i gynorthwyo'r awdurdodau lleol yn yr ardal honno. Y gwaith hwn sydd ar y cam cynharaf yn natblygiad y tri chynllun metro allweddol, ac rwy'n awyddus i gynyddu cyflymder ac uchelgais ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yn y rhan hon o Gymru. Mae oddeutu £8 miliwn wedi'i ddyrannu eleni i ddarparu cynlluniau teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus i gefnogi rhaglen metro bae Abertawe. Mae gwaith rhagarweiniol yn mynd rhagddo i ddatblygu cynllun peilot bws hydrogen posibl ym mae Abertawe a sir Benfro, a bydd cyfnewidfeydd newydd, gan gynnwys gorsaf newydd yn Sanclêr a ddarperir gan Trafnidiaeth Cymru, yn weithredol erbyn 2024, gan gynnig gwelliannau gwirioneddol i drafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal.
Yn ddiweddar, rwyf hefyd wedi comisiynu gwaith i ddatblygu rhaglen newydd ar gyfer canolbarth Cymru i archwilio sut y gellir cymhwyso ein dull metro yn y rhanbarth hwn a'n hardaloedd mwy gwledig ledled Cymru gyfan. Mae'n rhaid inni ddysgu o'r Almaen a'r Swistir ei bod yn gwbl bosibl cael system drafnidiaeth gyhoeddus effeithiol mewn ardaloedd gwledig. Bydd angen ymagwedd wahanol tuag at y Gymru drefol, ond mae'n gwbl ddichonadwy gydag ymrwymiad. Bydd gan glybiau ceir a beiciau trydan rôl fawr i'w chwarae, ynghyd â thrafnidiaeth sy'n ymateb i'r galw, ac mewn cynlluniau peilot ledled Cymru, mae ein gwasanaeth Fflecsi'n cynnig mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus lle nad oedd i'w gael o'r blaen, gan ddarparu cyfleoedd newydd i fwy o bobl. Rydym bellach yn treialu Fflecsi mewn 11 ardal, lle rydym yn gweld cynnydd sylweddol yn nifer y teithwyr, ac mae bellach wedi'i ddefnyddio ar gyfer dros 100,000 o deithiau. Ac rydym wedi ymrwymo i ddysgu ohono a'i ymestyn.
Lywydd, mae darparu ein metros yn un o'r rhaglenni mwyaf uchelgeisiol a chymhleth a gyflawnwyd gan Lywodraeth Cymru erioed. Mae'r mapiau a gyhoeddwyd heddiw'n darlunio ein rhaglenni sydd ar y gweill. Mae gennym y gallu, yr arbenigedd, y profiad a'r awydd yng Nghymru i symud ymlaen yn gyflym. Mewn gwirionedd, ni fyddwn yn cyflawni ein huchelgeisiau sero-net os na wnawn hynny. Diolch.