3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar y Metro

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 20 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 3:20, 20 Hydref 2021

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am y datganiad. Roeddwn i eisiau gofyn yn gyntaf ichi am hyder y cyhoedd ynglŷn â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn sgil COVID. Mae gwaith ymchwil Transport Focus yn dangos bod gwahaniaeth amlwg rhwng y rhai sydd wedi bod yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ystod y pandemig neu'n ddiweddar a'r rhaid sydd heb. Mae'r grŵp olaf yn poeni llawer mwy am ddefnyddio trafnidiaeth eto ac maen nhw eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw'n teimlo'n hyderus bod y drafnidiaeth yn lân ac yn ddiogel ac yn barod i'w defnyddio. Mae'n glir o'r hyn dŷch chi wedi bod yn ei ddweud a beth dŷn ni i gyd yn ei wybod bod angen modal shift yn y sector er mwyn cyrraedd net zero, ond eto mae niferoedd mawr o bobl yn dal i bryderu am eu diogelwch. So, pa gamau y byddwch chi a'ch Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau a rhoi hwb i hyder teithwyr er mwyn hybu'r defnydd yma o drafnidiaeth, yn enwedig ar gyfer y metro?