Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 20 Hydref 2021.
Ar ôl COVID, mae angen i ni annog pobl i ddechrau defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus unwaith eto. Felly, a fyddech chi, Ddirprwy Weinidog, yn sicrhau bod cyllid ar gael i awdurdodau lleol allu buddsoddi fel y gellir hysbysebu'r metro yn briodol, hysbysebu amserlenni ar gyfer bysiau a'r hyn sydd ar gael i bobl, fel y gallant gael hyder i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus eto? Diolch.