7. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil perchnogaeth cyflogai

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 20 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 5:02, 20 Hydref 2021

Mae gan Ddwyfor Meirionnydd hanes balch iawn mewn cwmni o'r fath efo hanes Antur Aelhaearn, wrth gwrs, ond ydych chi'n cytuno efo fi fod cwmnïau cydweithredol yn rhoi lles y gweithwyr a'r gymuned maen nhw'n eu gwasanaethu yn flaenaf, ac yn sicrhau bod mwy o bres cwmnïau cydweithredol yn aros yn yr economi lleol, ac felly ei fod o'n sefyll i reswm y dylid cefnogi a hyrwyddo cwmnïau cydweithredol o'r fath?