Part of the debate – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 20 Hydref 2021.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Aelod am gyflwyno'r ddadl hon ac am y ffordd y mae wedi cyflwyno ei ddadl. Er fy mod yn cydnabod y rhesymau pam y mae'r Aelod wedi cyflwyno'r cynigion hyn, rwy'n credu bod yr Aelod yn cyfeiliorni ynglŷn â beth fyddai'r manteision posibl o weithredu cyfraith Marcora Eidalaidd o'r 1980au yng Nghymru, ac rwyf hefyd yn pryderu bod yr Aelod yn gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried cynigion economaidd radical a hwythau eisoes yn ei chael hi'n anodd gweithredu deddfwriaeth bresennol y maent eisoes wedi cytuno arni.
Fel y gŵyr pawb ohonom yn y Siambr, mae Llywodraeth y DU yn agored iawn ei chefnogaeth i fusnesau cydweithredol a'r modd yr hoffent dyfu'r sector cydweithredol yn y wlad hon. Mae model cydweithredol perchnogaeth gan weithwyr yn cael ei weld gan lawer yn y Deyrnas Unedig, ar draws yr holl sbectrwm gwleidyddol, fel un da i weithwyr, cymunedau lleol a busnesau. Yn wir, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi cydnabod hyn ac wedi cyflwyno cyfres o fesurau i gefnogi a diogelu'r sector. Un enghraifft o'r fath yw Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014, sydd wedi lleihau'n sylweddol y cymhlethdodau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â rhedeg cwmnïau cydweithredol, ac ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth hon, gwelsom swm y cyfalaf cyfranddaliadau y gellir ei dynnu allan i'w fuddsoddi gan aelod mewn cwmni cydweithredol yn codi o £20,000 i £100,000. Mae hyn wedi rhoi llawer o hyblygrwydd mawr ei angen i nifer o gwmnïau cydweithredol yn y wlad hon allu codi cyfalaf.
At hynny, deallaf fod Llywodraeth y DU wedi tynnu sylw dro ar ôl tro at y ffaith eu bod yn barod iawn i dderbyn cynigion credadwy ar gyfer y diwygio hwn, ac mae Trysorlys Ei Mawrhydi yn ymgysylltu'n barhaus â'r sector cydweithredol i wneud y mwyaf o'i botensial. Dylai fy nghyd-Aelodau Llafur edrych ar y llwybr hwn yn hytrach na cheisio dadlau dros yr hyn y maent yn ystyried eu bod yn bolisïau Ewropeaidd ffasiynol sydd bron yn 40 mlwydd oed.
O edrych yn benodol ar gyflwyno cyfraith Marcora yng Nghymru, credaf fod angen i'r Aelodau gydnabod bod gwahaniaethau clir rhwng economïau'r Eidal a'r DU yn awr ac economïau'r Eidal a'r DU yn y 1980au. Ar hyn o bryd mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn nodi bod diweithdra yn y DU yn 4.7 y cant, tra'i fod yn 8 y cant yn yr Eidal cyn cyflwyno cyfraith Marcora. Cododd yn gyflym wedyn i tua 10 y cant ac mae wedi bod ar y lefel honno ar gyfartaledd byth ers hynny. Ar hyn o bryd mae'n 9.3 y cant. At hynny, yn ogystal â chyfradd ddiweithdra gymharol isel y DU, mae gennym hefyd lefelau digynsail o gymorth swyddi i helpu'r rhai sy'n ddi-waith i ddod o hyd i waith cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn golygu, yn ôl data diweddaraf y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, fod gweithwyr y DU yn llai tebygol na gweithwyr yr Eidal o fod yn ddi-waith am gyfnodau sylweddol. Mae hyn nid yn unig yn dangos bod gwahaniaeth amlwg rhwng y ddwy wlad, ond pe bai unrhyw ganlyniadau cadarnhaol i gyflwyno cyfraith Marcora yn yr Eidal, ni fyddai'r rhain yn cael eu teimlo mor gryf yng Nghymru. Yn aml, amlygir arbedion lles fel un o brif fanteision cyfraith Marcora, ond gan fod gweithwyr y DU yn llawer llai tebygol o barhau'n ddi-waith yn hirdymor, mae ymhell o fod yn glir a fyddai polisi cyflogaeth tebyg i Marcora yn cyflawni hyn i Gymru ai peidio.
Felly, gadewch i ni fod yn fwy realistig ynglŷn â hyn. Caiff busnesau cydweithredol a brynir gan y gweithwyr yn yr Eidal o dan gyfraith Marcora eu hariannu'n rhannol drwy ildio gwerth tair blynedd o fudd-daliadau diweithdra. Felly, yn y bôn, os yw'r cwmni cydweithredol a brynir gan y gweithwyr yn mynd i'r wal—