Part of the debate – Senedd Cymru am 5:18 pm ar 20 Hydref 2021.
Nid oes neb yn dadlau bod cwmnïau cydweithredol neu gydfuddiannol yn ateb i bob dim ac yn gwarantu bod busnes yn goroesi; felly y mae wedi bod erioed. Ac rwy'n cydnabod wrth gwrs fod yr Aelod yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod yna draddodiad hir o gwmnïau cydfuddiannol llwyddiannus yn y sector ariannol, a model busnes sydd yma i aros ar gyfer y dyfodol yn fy marn i.
Eisoes yng Nghymru mae gennym gymorth helaeth ar gael i'r sector. Mae Perchnogaeth Gweithwyr Cymru yn rhan o raglen Busnes Cymdeithasol Cymru a ariannir gan Lywodraeth Cymru a chronfa datblygu rhanbarthol Ewrop, cronfa flaenorol bellach o safbwynt Cymru—rhaglen lwyddiannus sydd, wrth gwrs, mewn perygl os na chaiff y cymorth ymarferol ar ffurf cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd ei ailddarparu i Gymru yn y dyfodol. Ar hyn o bryd mae'n darparu cyngor pwrpasol wedi'i ariannu'n llawn i helpu i benderfynu ai cynlluniau perchnogaeth gan y gweithwyr a chynlluniau cyfranddaliadau gweithwyr yw'r ateb cywir i'r busnes hwnnw wrth symud ymlaen. Yn ogystal, rydym yn cynnig cymorth penodol drwy Busnes Cymru i helpu gydag opsiynau cynllunio olyniaeth, gan gynnwys pryniant gan reolwyr.
Yn ogystal â hyn, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion weithio gyda'r sector i archwilio opsiynau i weld sut y gallwn hyrwyddo perchnogaeth gan y gweithwyr a phryniant gan weithwyr gyda'n rhanddeiliaid a'n busnesau ehangach yma yng Nghymru, gan gynnwys y gwaith y mae Banc Datblygu Cymru eisoes yn ei wneud. Boed yn waith a wnaethom yn y blynyddoedd diwethaf gyda syniadau Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru i wireddu gwerthoedd gweithredu cydweithredol ar draws meysydd Llywodraeth, boed mewn gofal cymdeithasol, lle rydym wedi deddfu i gefnogi datblygiad darparwyr di-elw a sefydlu'r gronfa gofal integredig i hyrwyddo modelau darparu amgen, neu yn yr economi sylfaenol, rydym eisoes wedi sefydlu cronfeydd arbrofol newydd i brofi syniadau arloesol a ffyrdd newydd o weithio y gobeithiwn y gellir eu hymestyn ym maes caffael. Rydym eisoes wedi defnyddio pwerau'r Llywodraeth ddatganoledig yma yng Nghymru mewn ffordd hyderus, i weithio gyda phartneriaid fel Canolfan Cydweithredol Cymru, ac i gymryd llawer o'r syniadau a hogwyd dros y ganrif ddiwethaf o waith y mudiad hwn er mwyn gwneud newid blaengar yn realiti ac er mwyn gwella bywydau gweithwyr.
Rydym wedi ymrwymo i barhau â'r daith hon drwy'r ysgogiadau polisi sydd ar gael yma yng Nghymru. Pe baem yn cyflwyno deddfwriaeth yn y maes hwn, byddai angen trafodaethau manylach i ddeall y budd o wneud hynny. Mae gennyf feddwl agored ynglŷn â deddfwriaeth, ond ceir her ymarferol wirioneddol gydag agenda ddeddfwriaethol lawn, a hefyd y cydbwysedd rhwng pwerau a gadwyd yn ôl a phwerau datganoledig fel y nododd yr Aelod wrth agor.
Bydd y Llywodraeth yn ymatal ar y cynnig heddiw, ond bydd gan Lafur Cymru, gan gynnwys y nifer fawr o Aelodau Llafur a Chydweithredol bleidlais rydd. Fodd bynnag, rwyf am ymateb yn gadarnhaol i'r hyn y credaf yw'r pwynt a'r diben y mae'r Aelod yn tynnu sylw ato wrth gyflwyno'r cynnig hwn ger ein bron heddiw: sut y gallwn ni a sut y byddwn ni'n dyblu nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru o fewn tymor y Senedd hon yng Nghymru? Oherwydd byddaf yn hapus iawn i dderbyn ei awgrym i eistedd gydag ef, gyda chyd-aelodau o'r Blaid Gydweithredol a Chanolfan Cydweithredol Cymru i drafod sut y gwnawn hynny'n ymarferol a chyflawni ein haddewid maniffesto.