Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 20 Hydref 2021.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn gyflwyno'r cynnig a osodwyd ger ein bron yn enw Darren Millar. Gan symud at y gwelliannau, ni fyddwn yn cefnogi gwelliant 1 am ei fod yn ceisio dileu popeth ar ôl pwynt 1 yn ein cynnig. Mae hwn yn gynnig sy'n cyflwyno cynllun adeiladol i geisio mynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio athrawon a phrinder staff sy'n ei hwynebu yng Nghymru ar hyn o bryd. Wrth gwrs, byddem yn cytuno â'r teimladau a amlinellir ym mhwyntiau 2, 3 a 4 gwelliant 1, sy'n debyg i gywair ein cynnig ni, a byddaf yn bwrw ymlaen i gydnabod rhai o'r camau cadarnhaol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd. Ond pwynt 5, Weinidog—yn sicr hoffwn gael rhywfaint o eglurhad gan y Gweinidog ynglŷn â pham y cafodd hyn ei gynnwys hyd yn oed. Mae braidd yn ddryslyd, ac yn ôl yr hyn a ddeallaf—cywirwch fi os wyf fi'n anghywir—mae addysg wedi'i datganoli'n llawn yma yng Nghymru. Mae cyflogau athrawon wedi'u datganoli'n llawn yma yng Nghymru ers 2018, fel y nodir yn y memorandwm esboniadol i Orchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2020.
Gan ein bod yn trafod cyflogau athrawon yng Nghymru, ar wahân i geisio gwthio'r bai ar Lywodraeth y DU a cheisio'u beirniadu unwaith eto—fel y gwn eich bod yn mwynhau ei wneud fel Llywodraeth, sy'n llesteirio ac yn drysu rhywun yn yr achos hwn, ac sydd, o ystyried y pwynt, yn gwbl amherthnasol i'r cynnig hwn—ni allaf ond meddwl ei fod yn ymgais i guddio'r ffaith nad oes gennych gynllun pendant ar waith i fynd i'r afael â'r pryderon rydym ni, yr undebau a staff addysgu mewn ysgolion wedi'u codi dro ar ôl tro, ac a nodir yn ein cynnig heddiw. Ni allaf weld bod pwynt 5, ar wahân i fod yn annymunol, yn cynnig unrhyw sylw adeiladol i'r cynnig a'r ddadl hon gan y Ceidwadwyr Cymreig heddiw, sy'n ceisio gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a staff addysgu yma yng Nghymru.
Ar welliant 2, ni fyddwn yn cefnogi hwn chwaith. Mae'n drueni mawr nad yw gwelliant Plaid Cymru yn cynnig unrhyw beth newydd neu adeiladol i'w ychwanegu at ein cynnig. Mae'n awgrymu dileu pwynt 4, sef y prif bwynt yn ein cynnig sy'n cynnig cynllun adeiladol i gefnogi recriwtio athrawon a mynd i'r afael â phrinder staff yma yng Nghymru. Ni allaf anghytuno ag unrhyw ran o'i gynnwys, ond drwy ddileu ein pwynt 4, byddai'n glastwreiddio unrhyw awgrymiadau cadarnhaol a gyflwynir gennym i'r Llywodraeth yma heddiw ac o'r herwydd, ni fyddwn yn ei gefnogi.
Byddaf yn trafod pwynt sydd angen ei wneud yn y Siambr hon nes bod fy wyneb yn las, ond rwyf hefyd yn rhoi clod lle mae clod yn ddyledus, ac mae'r Llywodraeth hon wedi gwneud rhai ymdrechion, fel yr amlinellwyd gennych, i wella recriwtio athrawon a phrinder staff, ond nid yw'n ddigon da, nid yw'n ddigon da o gwbl. O ran recriwtio athrawon, pe bawn yn athro yn marcio ymdrech y Llywodraeth hon ar recriwtio athrawon a phrinder staff, byddwn yn ychwanegu'r sylwadau hyn: ymdrech weddol, ond mae llawer o le i wella. Rydych chi, Lywodraeth Cymru, yn gwneud rhai gwelliannau ymosodol i'n cynnig, ond mae'r ffeithiau yno. Mae Cymru'n wynebu argyfwng prinder athrawon ar hyn o bryd, ac am y rheswm hwn rydym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, wedi dod â'r ddadl hon i'r Siambr heddiw i dynnu sylw at hyn, ac i ofyn i chi ar ran y plant a staff addysgu yng Nghymru, ffurfio cynllun i ddiogelu eu haddysg drwy wella recriwtio athrawon yng Nghymru, a gwneud hynny fel mater o frys oherwydd yr angen dybryd i wneud hynny.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn yn awr i dalu teyrnged, Ddirprwy Lywydd, i gydnabod gwaith caled ac ymroddiad athrawon a staff ysgolion ledled Cymru, yn enwedig yn ystod y pandemig COVID. Mae wedi bod yn gyfnod eithriadol o anodd iddynt hwy ac i ddisgyblion, ac mae'r holl staff addysgu yn parhau i wneud gwaith eithriadol tra'n wynebu pwysau parhaus a chynyddol. Roedd y pwysau'n amlwg ac yn gyffredin ymhell cyn i'r pandemig ddechrau, oherwydd y tanariannu cronig gan Lywodraethau Llafur olynol yng Nghymru. Rydym yn cydnabod bod athrawon yng Nghymru yn parhau i wynebu pwysau digynsail wrth inni gefnu ar y pandemig a gweithredu'r cwricwlwm newydd. Drwy lwyth gwaith cynyddol, absenoldeb cynyddol staff a disgyblion oherwydd COVID, ac effaith sylweddol ar les athrawon, maent i gyd yn llesteirio'r broses o gyflwyno'r cwricwlwm newydd, yn ogystal â chael effaith, wrth gwrs, ar recriwtio staff.
Rwy'n cymeradwyo'r gwaith a amlinellwyd gennych yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon ar iechyd meddwl a chefnogi iechyd meddwl staff, o ganlyniad i'r ymateb i'r argyfwng y mae staff addysgu yn ei wynebu mewn ysgolion mewn perthynas ag iechyd meddwl: 82 y cant o staff ysgolion yn ymateb i arolwg yn dweud ei fod yn effeithio'n negyddol ar eu hiechyd meddwl. Arweiniodd y cynnydd sylweddol yn llwyth gwaith athrawon at bryderon ynglŷn â staff wedi gorflino. Mae ysgolion wedi dioddef pobl yn gadael y proffesiwn am rai o'r rhesymau a amlinellais eisoes, ac maent yn ei chael hi'n anodd recriwtio athrawon newydd, ac felly maent wedi dod yn orddibynnol ar athrawon cyflenwi, yn ogystal â chynyddu llwyth gwaith cynorthwywyr addysgu yn sylweddol ac yn anghymesur, fel y nododd fy nghyd-Aelod, Peter Fox, ddoe. Mae'n amlwg fod angen i'r Llywodraeth hon gyflwyno cynllun i hybu recriwtio athrawon yng Nghymru am amryw o wahanol resymau. Ar ôl dau ddegawd o Lywodraethau Llafur Cymru, maent wedi llwyddo i oruchwylio gostyngiad o 10.3 y cant yn nifer yr athrawon rhwng 2011 a 2021, gan gynnwys gostyngiad yn nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg—rhywbeth y bydd fy nghyd-Aelod yn ei egluro yn nes ymlaen.
Cynllun clir yw'r hyn sydd ei angen gan y Llywodraeth hon: cynllun clir i osod targedau i ddarparu 5,000 o athrawon ledled Cymru yn y pum mlynedd nesaf, i ad-dalu ffioedd dysgu i'r rhai sy'n mynd ymlaen i weithio fel athrawon am o leiaf bum mlynedd yn ysgolion Cymru, ac i warantu blwyddyn o gyflogaeth fan lleiaf i bob athro newydd gymhwyso mewn ysgol neu goleg yng Nghymru. Uchelgeisiol, ond mae'n flaengar, ac rydym eisiau'r broses honno o recriwtio a chadw athrawon yng Nghymru. A ydych am—? Na.
Er mwyn cyflawni hyn, gellid rhoi pwerau i Gyngor y Gweithlu Addysg achredu rolau gwahanol i mewn i'r proffesiwn, gan gynnwys caniatáu i athrawon o wledydd eraill drawsnewid eu cymwysterau'n rhai sy'n caniatáu iddynt weithio yng Nghymru. Mae diffyg cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi llesteirio gallu ysgolion i gyflogi digon o staff. Mae Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon wedi crybwyll hyn fel pryder gwirioneddol, ac nid yw'n ddigon da. Mae angen diwygio recriwtio athrawon yn sylfaenol, a dyna pam ein bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu gwasanaeth cynghori ar addysg yng Nghymru i wella mynediad at gyfleoedd cyflogaeth a sefydlu mwy o lwybrau i'r proffesiwn addysgu. Bydd hyn yn caniatáu llwybr newydd ar gyfer recriwtio athrawon drwy greu cronfa ddata newydd o athrawon cymwysedig, gan ganiatáu i ysgolion chwilio'n fwy hwylus am athrawon ac ysgolion i lenwi swyddi gwag, wedi'i weithredu gan ddefnyddio data gan Gyngor y Gweithlu Addysg yng Nghymru. Gallai athrawon fanteisio ar hyn felly drwy ddarparu datblygiad proffesiynol parhaus yn fewnol, uwchsgilio ac ailsgilio, a fyddai'n gyfle gwych.
Edrychaf ymlaen at ymateb y Llywodraeth i'n dadl heddiw, a chlywed y cynlluniau sydd ganddynt i fynd i'r afael â'r argyfwng parhaus hwn a phryderon dilys ein hysgolion, ac rwy'n gobeithio y gall yr Aelodau ar draws y Siambr gefnogi ein cynnig heddiw.