Part of the debate – Senedd Cymru am 5:56 pm ar 20 Hydref 2021.
Dwi'n clywed beth rydych chi'n ei ddweud o ran y nifer sydd ar gyrsiau dysgu cychwynnol yn cynyddu, a da o beth ydy hynny; y broblem fawr ydy bod un o bob tri yn gadael ar ôl pum mlynedd ac mai hwnna mewn gwirionedd sydd yn creu'r broblem fawr wedyn. Cadw'r athrawon ydy'r broblem fwyaf, a hwnna, does bosib, y mae angen ichi roi sylw iddo fo.