Part of the debate – Senedd Cymru am 5:49 pm ar 20 Hydref 2021.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth i mi ddechrau, hoffwn gofnodi fy niolch enfawr unwaith eto i'r gweithlu addysg cyfan am eu hymdrechion anhygoel i gefnogi ein pobl ifanc drwy'r cyfnod heriol hwn. Mae pob un ohonom yma heddiw yn gwybod am y rôl bwysig y mae athrawon a staff eraill ysgolion a cholegau yn ei chwarae yn cefnogi llesiant pobl ifanc, ond er mwyn gwneud hynny, mae'n rhaid i ni gefnogi eu llesiant hwy hefyd.
Mae cefnogi llesiant ein gweithlu addysg o'r pwys mwyaf, ac yn ganolog i gyflawni hyn—ac rwy'n croesawu cydnabyddiaeth y Ceidwadwyr i hyn—mae ein dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant. Ydy, mae'n cefnogi dysgwyr, ond mae'n fwy na hynny; mae'n cefnogi pob unigolyn sy'n rhan o'n system addysg. Er mwyn helpu'r gwaith hwn, rydym wedi comisiynu Cymorth Addysg, sefydliad arbenigol sy'n cefnogi iechyd meddwl a llesiant yn benodol ar gyfer y gweithlu, ac mae eu prosiect yn darparu ystod o wasanaethau pwrpasol, gan gynnwys cymorth hyfforddi a mentora i addysgwyr. Bydd y prosiect hwn yn weithredol drwy gydol blwyddyn academaidd 2021-22 a bydd yn darparu ystod o wasanaethau, yn amrywio o hyfforddiant gwytnwch, grwpiau cymorth cymheiriaid a gwasanaethau cymorth dros y ffôn, ymhlith ymyriadau eraill. Rydym hefyd wedi cefnogi estyniad i'r prosiect hyfforddi a mentora llesiant, a ddatblygwyd gan y rhanbarthau mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru y llynedd.
Ochr yn ochr â'n cefnogaeth i lesiant, rydym yn gwybod pa mor bwysig yw dysgu a datblygiad proffesiynol i sicrhau bod ein gweithlu'n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi fel gweithwyr proffesiynol. Yn unol â'r safonau proffesiynol, mae ein dull cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol yn creu gweledigaeth sy'n addas ar gyfer ein system addysg sy'n esblygu, a rhan annatod o'r dull hwnnw yw sicrhau bod digon o adnoddau ar gyfer dysgu proffesiynol o ran cyllid ac amser i athrawon, ond hefyd cynorthwywyr addysgu ac arweinwyr ysgolion. Rydym yn disgwyl trawsnewidiad dwfn yn y ffordd y mae ein haddysgwyr a'n harweinwyr yn meddwl am eu dysgu proffesiynol yng ngoleuni'r cwricwlwm newydd ac yn y ffordd rydym yn ymateb i heriau COVID. Byddwn yn rhoi cymorth i ysgolion i'w galluogi i wneud y newid sylfaenol hwn.
Er mwyn caniatáu amser a lle i addysgwyr gydweithio ar draws ysgolion, mae'r lefelau uchaf erioed wedi'u buddsoddi mewn dysgu proffesiynol ers 2018. Dyfarnwyd hyn yn uniongyrchol i ysgolion i gefnogi'r gwaith o weithredu'r cwricwlwm—enghraifft o'r cyllid i'r rheng flaen roedd Siân Gwenllian yn galw amdano yn ei chyfraniad. Yn fy marn i, mae dysgu proffesiynol yn hawl, wedi'i chefnogi gan y Llywodraeth, hawl y mae'n rhaid i bob athro ei chael, ac rwy'n archwilio ffyrdd y gallwn wneud mwy yn y maes hwn i wneud yr hawl hon yn llawer haws i'w llywio, a byddwn yn rhoi diweddariadau pellach i'r Aelodau maes o law.
Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn ystod eang o raglenni cenedlaethol, gan gynnwys ein rhaglen ymholiad proffesiynol, llwybr dysgu'r cynorthwywyr addysgu a'r cymhwyster proffesiynol cenedlaethol ar gyfer prifathrawiaeth. Ochr yn ochr â'r rhain mae cefnogaeth i addysgwyr yn gynnar yn eu gyrfa, ein rhaglen Meistr newydd, y cynllun sabothol iaith Gymraeg a'r cynnig arweinyddiaeth cenedlaethol. A phan fyddwn yn siarad ag athrawon, y math hwn o gynnig cymorth cyfoethocach a fydd yn ein helpu i barhau i gynyddu'r nifer o athrawon sy'n cael eu recriwtio. Mae hyn i gyd yn creu system lle rydym yn buddsoddi yn ein haddysgwyr ac yn eu datblygiad proffesiynol.
Rydym wedi gweithio gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, fel y nododd rhai o'r Aelodau yn y ddadl, i werthuso'r cynnydd rydym wedi bod yn ei wneud mewn perthynas â dysgu proffesiynol. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, maent wedi datgan bod ein ffocws ar ddysgu proffesiynol athrawon yn eithriadol o gymharu â llawer o awdurdodaethau eraill y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ac yn eu geiriau hwy, mae'n darparu sail gref ar gyfer gwella dysgu proffesiynol mewn ysgolion.