Part of the debate – Senedd Cymru am 6:25 pm ar 2 Tachwedd 2021.
Mewn sawl ffordd, bydd y cyfraniad y byddaf i'n ei wneud i'r ddadl fer hon yn adleisio cyfraniad y siaradwr blaenorol a Chadeirydd y pwyllgor. Rydym ni wedi cael y sgwrs hon fel pwyllgor, ac mae'n bwysig. Fel rhywun sydd wedi eistedd yn y lle hwn am nifer o flynyddoedd erbyn hyn, rydym ni wedi gweld memoranda cydsyniad deddfwriaethol yn mynd a dod, ac maen nhw fel arfer yn bodoli er mwyn darparu dull ar gyfer newid ymylol mewn polisi neu i alluogi Gweinidogion Cymru i sicrhau lefel o barhad ar ddwy ochr y ffin, lle bo hynny'n angenrheidiol.
Mae'r Cwnsler Cyffredinol presennol a'r Cwnsler Cyffredinol blaenorol wedi bod yn glir na ddylai swyddogaeth cynigion cydsyniad deddfwriaethol gael ei ehangu er mwyn cyflawni amcanion polisi'r Llywodraeth gyfan, ac rwyf i'n teimlo mai dyna'r hyn yr ydym ni'n ei weld—twf cynyddol mewn cynigion cydsyniad deddfwriaethol i osgoi democratiaeth yma yng Nghaerdydd. Mae hyn yn achosi problemau gwirioneddol, sylweddol i mi, oherwydd yr hyn sydd gennym ni yma—. Rwy'n cydymdeimlo â'r Gweinidog. Pe bai hi'n cyflwyno ei chynnig, o ran polisi, o'n blaenau ni, fi fyddai'r cyntaf yn y rhes i bleidleisio drosto. Rwy'n credu bod amcan y polisi yn gwbl gywir. Ond yr hyn y mae hi'n ei wneud yw ceisio cydsyniad Senedd San Steffan i roi pwerau i Weinidogion Cymru, ac nid yw hi'n ceisio cydsyniad y Senedd hon ar gyfer y pwerau hynny. Mae hi'n dweud y bydd hi'n mynd drwy'r weithdrefn gadarnhaol pan gaiff y pwerau hynny eu rhoi, ac rwy'n derbyn hynny, ac rwy'n falch ei bod hi'n gwneud hynny. Fodd bynnag, mae hyn yn gwbl anghywir. Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei gwneud yn glir iawn, iawn, ac mae Gweinidogion blaenorol wedi ei gwneud yn glir iawn hefyd, fod yn rhaid diogelu ein democratiaeth a'n prosesau deddfwriaethol.
Yn wahanol i'r siaradwr blaenorol, byddaf i'n pleidleisio gyda'r Llywodraeth y prynhawn yma, ond byddaf i'n dweud hefyd wrth y Llywodraeth nad yw hynny'n rhoi rhwydd hynt i gyflwyno cynigion cydsyniad deddfwriaethol er mwyn osgoi ein democratiaeth, osgoi ein gwaith craffu ac osgoi ein deddfwrfa. Rwy'n amau bod angen dadl lawnach arnom ni ar y materion hyn. Llywydd, efallai fod hyn yn fater i chi eich hun yn y Gadair. Codais i'r mater hwn, fel y gwyddoch chi, yn ystod y cwestiynau busnes yn gynharach heddiw, ac roedd y Gweinidog wrth ateb, yn glir iawn: 'Mae angen y pwerau hyn arnom ni', dywedodd hi. Wel, pan ddywedodd hi 'ni', wrth gwrs, nid oedd hi'n golygu ni; nid y 'ni' ar y cyd yn y Siambr hon ydoedd. Llywodraeth Cymru oedd yn dymuno cael y pwerau hynny, ac mae Llywodraeth Cymru yn atebol i'r lle hwn. Byddwn i'n awgrymu, er y gallem ni dderbyn hyn y tro hwn, ein bod ni'n cael dadl ehangach a mwy dwys ynghylch lle cynigion cydsyniad deddfwriaethol, oherwydd rwyf i wedi gweld, ac rydym ni i gyd wedi gweld, Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn hyrddio drwy ein democratiaeth. Maen nhw wedi sathru ein pwerau dan draed yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwbl gywir wrth sefyll dros ddemocratiaeth Cymru. Mae gweinidogion yn gwybod fy mod i wedi eu cefnogi 100 y cant ar hynny, ond am yr un rheswm, ni allaf ganiatáu iddyn nhw wneud yr un peth.