Part of the debate – Senedd Cymru am 6:16 pm ar 2 Tachwedd 2021.
Diolch, Llywydd. Fel y mae'r Gweinidog wedi ei amlinellu, mae'r ddadl hon yn dilyn penderfyniad y Senedd ddiwedd mis Rhagfyr i gydsynio i Fil Amgylchedd Llywodraeth y DU. Fe wnaethom ni ystyried y memorandwm atodol a'r ohebiaeth sy'n gysylltiedig ag ef yn ein cyfarfod ddoe, ond bydd y Senedd yn deall nad ydym ni wedi cael amser i adrodd yn ffurfiol. Ond a gaf i ddweud o'r cychwyn cyntaf ein bod ni yn croesawu'r penderfyniad i gyflwyno'r memorandwm atodol ac i gynnal y ddadl hon heddiw, pan awgrymodd y darn cyntaf o ohebiaeth a gafodd ei anfon atom gan y Gweinidog ar 25 Hydref na allai'r naill na'r llall ddigwydd oherwydd pwysau amser? Mae cynnal y ddadl hon heddiw yn gynsail ddefnyddiol, yn ein barn ni, a dylid ei ddilyn petai amgylchiadau tebyg yn codi yn y dyfodol.
Rwyf i yn dymuno tynnu sylw at rai o'r pwyntiau a wnaeth y Gweinidog yn ei hail lythyr atom ar 28 Hydref 2021. Yn y llythyr hwnnw, dywedodd y Gweinidog wrthym, oherwydd hwyrni cyflwyno gwelliant gwreiddiol y Bil a oedd yn berthnasol i Loegr yn unig gan Lywodraeth y DU, y gallai pŵer Cymru, heb y gwelliant sydd wedi ei nodi yn y memorandwm atodol sy'n cael ei drafod heddiw, fod wedi ei gyfyngu o hyd i gynnwys eitemau defnydd untro plastig yn unig, ac wedi cyfyngu ar allu Gweinidogion Cymru i weithredu mewn maes mor bwysig o'i chymharu â Lloegr. Mae hi wedi crybwyll hynny yn ei sylwadau hi yn awr hefyd.
Fodd bynnag, wrth fynd yn ôl ychydig o gamau, mae'n amlwg na fyddai'r sefyllfa hon ei hun wedi codi pe bai Llywodraeth Cymru wedi dewis deddfu ei hun ar y materion hyn drwy Fil amgylchedd Cymru. Yn wir, gallai Bil amgylchedd Cymru fod wedi galluogi Llywodraeth Cymru i gynnig deddfwriaeth a oedd yn diwallu ei hanghenion yn uniongyrchol, a rhai dinasyddion Cymru, o bosibl, wrth gwrs, mewn ffyrdd mwy uchelgeisiol nag sy'n bodoli ym Mil y DU. Mae hwn yn bwynt arbennig o bwysig, fel y dywedodd y Gweinidog wrthym ni eto sut y mae'r maes polisi hwn yn wir yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
Yng ngoleuni'r ddadl heddiw, mae hwn yn amser da i'r pwyllgor dynnu sylw'r Senedd at egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer deddfu drwy Filiau Llywodraeth y DU. Cawson nhw eu darparu i ni yn ddiweddar gan y Cwnsler Cyffredinol. Yn ein barn ni, mae'n ymddangos eu bod yn cynnwys rhai anghysondebau, a byddwn ni'n archwilio 'r rhain mewn sesiynau tystiolaeth gyda'r Cwnsler Cyffredinol yn y dyfodol. Ond, yn gyffredinol, wrth ystyried yr egwyddorion, ochr yn ochr â rhywfaint o'r ohebiaeth yr ydym ni wedi ei chael mewn ymateb i gwestiynau penodol ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol unigol, rydym ni'n pryderu fel pwyllgor ynghylch y cyfeiriad y mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn ei gymryd bellach—boed hynny allan o'i gwirfodd ei hun neu o angenrheidrwydd.
Ymddengys mai'r sefyllfa ddiofyn sydd wedi ei mabwysiadu bellach yw bod Llywodraeth Cymru yn fwyfwy hapus gyda Llywodraeth y DU yn deddfu nid yn unig ar ffiniau datganoli, ac nid yn anaml chwaith, ond wrth wraidd datganoli. Wrth wneud hynny, mae'n defnyddio gwaith rhynglywodraethol i gyflawni rhai o'i hamcanion deddfwriaethol, gan nodi ar yr un pryd ddiffyg adnoddau ar gyfer deddfu yn y Senedd. Yn gyffredinol, mae'r pwyllgor yn teimlo bod y rhain yn ddatblygiadau sy'n peri pryder, a ddylai fod yn destun pryder i bob un ohonom ni yma yn y Senedd, oherwydd bod peryg y byddan nhw'n osgoi ac yn tanseilio swyddogaeth y Senedd fel deddfwrfa, ac yn wir ein swyddogaeth fel Aelodau'r Senedd ynddi. Felly, byddwn yn parhau i bwyso'n gryf ar y materion hyn.
Fel y nododd y Cwnsler Cyffredinol yn ddiweddar, mae ein swyddogaeth ni fel pwyllgor yn un bwysig yn y Senedd, yn enwedig o ystyried natur unsiambrog ein Senedd. Felly, ynghyd â phwyllgorau eraill, rydym yn gweithio i geisio diogelu uniondeb datganoli a thrwy hynny sefyll dros ddemocratiaeth seneddol Cymru drwy gofnodi'r pwyntiau hyn. Diolch, Llywydd.