8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil yr Amgylchedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:23 pm ar 2 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 6:23, 2 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Ar ddiwedd ei llythyr, mae'r Gweinidog yn mynegi ei hymrwymiad i gonfensiwn Sewel a rhoi cyfle i'r Senedd graffu ar unrhyw ddarpariaethau newydd mewn Bil yn y DU a phleidleisio arnyn nhw. Gweinidog, nid yw pleidlais derbyn neu wrthod braidd heb unrhyw rybudd na chraffu yn ddigon da. Nid yw dadl chwarter awr mewn sifft hwyr ar nos Fawrth yn ddigon da. Fel y dywedodd pwyllgor y cyfansoddiad mewn adroddiad yn gynharach eleni, dylai Aelodau'r Senedd allu clywed tystiolaeth arbenigol, gwrando ar farn rhanddeiliaid yng Nghymru, a thrwy hynny, ein hunain, cyflwyno gwelliannau i brofi, herio a chraffu ar Weinidogion Cymru. Nid yw hyn wedi digwydd. Dyna hanfod craffu, ac nid yw hynny wedi digwydd gyda'r Bil hwn. Bydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn.