Adferiad Trefi Gwledig

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 2 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:06, 2 Tachwedd 2021

Wel, diolch yn fawr i Cefin Campbell am y cwestiwn, Llywydd. I adfer trefi yn y canolbarth a’r gorllewin, mae Llywodraeth Cymru yn dilyn dull sydd wedi ei seilio ar gryfderau. Gan weithio gyda'r awdurdodau lleol, cyrff y trydydd sector ac eraill, ein nod yw siapio dyfodol sydd wedi ei seilio ar yr asedau niferus sydd gan y cymunedau hyn yn barod.