Ymdrechion Gwrth-Hiliaeth

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 2 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:17, 2 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Aelod am hynny, Llywydd? Mae ymdrechion gwrth-hiliol Llywodraeth Cymru wedi'u nodi yn ein cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol. Cafodd dros 330 o ymatebion eu derbyn pan ddaeth ymgynghoriad ar y cynllun i ben yn yr haf. Mae'r ymatebion hyn yn cael eu dadansoddi'n annibynnol ar hyn o bryd a bydd y canlyniadau'n cael eu defnyddio i wneud y cynllun yn gryfach byth.