Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 2 Tachwedd 2021.
Diolch i Alun Davies am hynna, Llywydd. Bydd yn rhaid i'r ffordd yr ydym ni'n teithio newid os ydym ni'n mynd i sicrhau Cymru carbon niwtral. Bydd angen gostyngiadau sylweddol i allyriadau nwyon tŷ gwydr o drafnidiaeth, drwy leihau'r galw ac annog newid modd, gan gefnogi'r newid i dechnolegau carbon isel a thrwy fesurau effeithlonrwydd ynni.