2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 2 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 2:28, 2 Tachwedd 2021

A wnewch chi fel Gweinidog amaeth, neu hyd yn oed Gweinidog yr economi, ddod â chyhoeddiad ger ein bron ynghylch y camau dŷch'n eu cymryd i fynd i’r afael â’r arferiad cynyddol yma o gwmnïau mawr rhyngwladol yn prynu tir amaethyddol yng Nghymru er mwyn ei ddefnyddio fel tir tyfu coed ac 'offset-io' allyriadau carbon eu cwmnïau nhw er mwyn iddyn nhw fedru parhau ag arferion llygredig eu cwmnïau? Mae'r Swistir wedi gosod rheolau gwarchod clir ar dir amaethyddol yno ers y 1950au sy'n golygu mai dim ond at ddibenion amaeth y dylid defnyddio tir sydd wedi ei glustnodi am dir amaethyddol yn y Swistir. Mae angen sicrhau bod tir amaethyddol Cymru yn parhau i fod yn dir i gynhyrchu bwyd, a bod ffermydd teuluol Cymru yn parhau fel ffermydd sy'n cefnogi'r economi sylfaenol a'r economi gylchol. Diolch.