Part of the debate – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 2 Tachwedd 2021.
Diolch yn fawr, Rhun. Rŷn ni yn gwneud eithaf lot nawr i geisio atgyfnerthu'r system—dyna beth oedd ein trafodaeth ni yn ystod yr wythnosau diwethaf, yn arbennig gyda Trafnidiaeth Cymru. Mae'r trafodaethau hynny wedi mynd ymlaen gyda Trafnidiaeth Cymru i wneud yn siŵr eu bod nhw'n ei gweld hi fel rhan o'u cyfrifoldeb nhw i blismona hyn. Fel dwi'n ei ddweud, rŷn ni hefyd wedi estyn allan i rai o'r siopau, yn arbennig y siopau mawr. Ond, y ffaith yw, mae'n rhaid inni gael y cyhoedd i ddod gyda ni ac mae'n rhaid inni gael y cyhoedd i ddeall bod hwn yn gyfrifoldeb arnyn nhw; mae'n ddeddfwriaeth. Ac, wrth gwrs, felly, mae yna raglen gyfathrebu, sy'n eang dros ben, sydd eisoes ar waith. Wrth gwrs, mi wnawn ni'n gorau i wneud yn siŵr bod pobl yn clywed y negeseuon hynny.
O ran y brechlyn a'r booster, fel yr eglurais, beth rŷn ni'n ceisio'i wneud yw sicrhau bod pobl yn derbyn yr alwad i gael eu booster mewn trefn. Rŷn ni'n deall bod hynny, ambell waith, yn hirach na chwe mis ar ôl yr un diwethaf. Yn anffodus, roedden ni'n barod i roi'r booster yn gyflymach nag y cawson ni'r cyfle i ddechrau'r broses, achos roedd yn rhaid inni aros am y JCVI—dyna pam rŷn ni yn y sefyllfa lle'r oedden ni'n barod. Ond, wrth gwrs, mae capasiti yn rhywbeth mae'n rhaid inni weithio arno, ac mae'n rhaid inni gofio bod yna dal pobl yn ein cymunedau ni sydd ddim wedi cael y brechlyn cyntaf a dŷn ni ddim eisiau gadael neb ar ôl. Mae'r system o ran brechu ar hyn o bryd yn eithaf cymhleth, ac felly, mae'r negeseuon yn fwy cymhleth, ond dwi yn derbyn beth rŷch chi'n ei ddweud o ran beth mae pobl angen yw gwybod pryd maen nhw'n debygol o'i chael hi. Mae angen rhyw expectation management; mae hwnna'n bwysig hefyd.
O ran plant 12 i 15 oed, dwi'n meddwl bod tua 45 y cant erbyn hyn wedi cael y brechlyn. Mae yna rywfaint o gyfyngiadau o ran y rheswm pam nad ŷm ni wedi gallu mynd ymhellach gyda hynny, yn rhannol achos bod lot fawr o blant wedi dioddef o COVID a dŷn nhw ddim yn gallu cael y brechlyn o fewn 28 diwrnod o gael COVID. Felly, mae'n rhaid inni adael rhywfaint o amser. Mi fyddwn ni'n atgyfnerthu'r negeseuon hynny.
O ran y pasys COVID, mi wnaethon ni'n glir mai cyfaddawd oedd hi; mae'n rhaid inni gael y balans yma'n iawn. Dyw hon ddim yn wyddoniaeth berffaith a dwi'n falch i glywed y byddwch chi yn ein cefnogi ni o ran gobeithio mynd ymhellach gyda'r pàs COVID. O ran mynd ymhellach i lefydd eraill—er enghraifft, y tafarndai—pan welais i'r torfeydd yng nghanol Caerdydd ar y penwythnos, mi oeddwn innau hefyd yn poeni am beth fyddai'r tafarndai yn edrych fel. Beth rydyn ni wedi'i ddweud yw, os na fydd y sefyllfa'n gwella, mi fydd angen i ni ystyried pasys yn ein tafarndai ac ati, ond mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n gweithio gyda'r sector i wneud yn siŵr bod beth bynnag rŷn ni yn ei gyflwyno yn ymarferol.
O ran y dechnoleg, dwi ddim yn ymwybodol bod y dechnoleg wedi gwella eto, ond dwi yn poeni yn arw am beth fydd y Nadolig yn edrych fel os byddwn ni'n gweld y math o olygfeydd a welon ni ar y penwythnos yng Nghaerdydd dros bob man yng Nghymru, o ran pobl yn cymysgu pan fo COVID yn dal ar ei anterth.