Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 2 Tachwedd 2021.
Mae yna nifer o bobl yn byw yn rhanbarth Canol De Cymru wedi cysylltu â fi sydd gydag aelodau o’r teulu sydd gydag awtistiaeth ac sydd yn gwrthod cael brechlyn am bob math o resymau, gan gynnwys dod yn rhy bryderus i gael brechlyn tra maen nhw mewn canolfan frechu oherwydd staff dibrofiad ddim yn delio’n sensitif gyda’u hanghenion. Mae nifer hefyd yn methu neu’n gwrthod cymryd prawf llif unffordd. Ac maen nhw’n pryderu am effaith ehangu'r pàs COVID i gynnwys mwy o leoliadau. Yn Lloegr, mae’n bosibl i bobl sydd gydag awtistiaeth ddal i gael pàs COVID ar sail eithriad meddygol. Allwch chi gadarnhau os yw hyn hefyd yn wir yng Nghymru, oherwydd dydy’r canllawiau o ran hyn ddim yn glir ar wefan Llywodraeth Cymru o ran y pàsys COVID? Byddai cadarnhau hyn yn rhyddhad mawr i bobl sydd gydag awtistiaeth, a’u teuluoedd.