Part of the debate – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 2 Tachwedd 2021.
Diolch, Weinidog. Wel, dwi’n lleisio barn fy etholwyr yn fan hyn, a nifer o bobl eraill hefyd, wrth ddweud eu bod nhw wedi colli trywydd yn llwyr ar eich strategaeth chi wrth ddelio efo coronafeirws, mae’n flin gyda fi ddweud. Mi ddaru chi gyflwyno COVID pass, onid o, ac, yn y ddadl oedd fan hyn rhai wythnosau yn ôl, roedd y drafodaeth i gyd yn sôn am yr angen am COVID pass oherwydd clybiau nos, a bod pobl ifainc yn mynd i glybiau nos. Ond ar y pryd hynny roedd y dystiolaeth yn dangos bod yr haint yn lledaenu yn ein hysgolion ni, ac mae’r haint wedi bod yn rhemp yn ein hysgolion ni ers dros ddau fis. Mae wedi cymryd dau fis a hanner ichi ddod i’r Siambr yma a dweud eich bod chi'n mynd i weithredu yn yr ysgolion. Felly, dwi yn ddiolchgar am eich cyfraniad chi'n sôn am yr ysgolion heddiw, ond mae pobl wedi colli'r hyder, ac felly mae o'n hollbwysig eich bod chi'n cyfathrebu'n glir i'r rhieni beth ydy'r disgwyliadau arnyn nhw pan fo plant yn cael eu canfod efo'r haint yma, neu i'r athrawon a'r staff yn yr ysgolion hefyd.
Yna, roeddech chi'n sôn bod y WRU yn hapus efo'r pàsys yma. Hwyrach bod hynny'n wir, ond ddaru degau o filoedd o bobl ddod oddi ar y bysus a'r trenau, mynd mewn i'r tafarndai, canu a bloeddio ac yn y blaen, yr un ohonyn nhw yn gwisgo face mask. Roeddwn i yma yng Nghaerdydd a gwelais i yr un ohonyn nhw yn gwisgo mwgwd. Felly, mae hynna'n awgrymu eich bod chi hwyrach ddim wedi dysgu'r gwersi ers y chwe gwlad y flwyddyn ddiwethaf, ac yn dangos, felly, pam bod angen ymchwil annibynnol arnom ni i COVID yma yng Nghymru. Felly, a wnewch chi ymrwymo i ledaenu y pàsys i fod yn basbort sydd yn ystyrlon?
A hefyd, ddaru chi sôn am hunanynysu—un cwestiwn olaf: pan fyddwch chi'n disgwyl i bobl hunanynysu, pa gymorth ariannol y byddwch chi yn ei roi iddyn nhw a'u teuluoedd wrth eu bod nhw'n gorfod stopio gweithio am hwyrach hyd at ddwy wythnos? Diolch.