4. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Strategaeth Sero-net

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 2 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 3:35, 2 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Mae'r cynllun yn cwmpasu allyriadau tiriogaethol Cymru, ac felly mae angen gweithredu gan Lywodraeth y DU yn yr ardaloedd hynny y maen nhw'n gyfrifol amdanyn nhw. Rydym yn gresynu at y diffyg ymgysylltu a gawsom gan Lywodraeth y DU wrth ddatblygu eu cynllun sero-net a'r diffyg mesurau yn yr adolygiad o wariant yr wythnos diwethaf i gefnogi gweithredu ar yr hinsawdd. Drwy nodi'n glir ein disgwyliadau o ran gweithredu Llywodraeth y DU yn ein cynllun, credwn ein bod yn cynnig her adeiladol, y gobeithiaf y bydd y Senedd yn ei chymeradwyo.

Mae'r cynllun sero-net a gyhoeddwyd gennym yr wythnos diwethaf yn deillio o ymgysylltu ac ymgynghori sydd wedi digwydd dros y tair blynedd diwethaf, o ymgynghoriadau polisi ffurfiol a chraffu gan y Senedd i fentrau fel cynulliad hinsawdd Blaenau Gwent. Mae'r dystiolaeth a gasglwyd i lywio cyfrifiannell 2050 Cymru yn dangos y bydd cyflawni ein huchelgais yn sicrhau gostyngiad o 44 y cant mewn allyriadau erbyn 2025, gan berfformio'n well na'r targed o 37 y cant a argymhellwyd gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd. Fodd bynnag, nid y cynllun yw'r gair olaf. Bydd angen rhagor o syniadau a chamau gweithredu i leihau allyriadau ymhellach, yn nhymor y Senedd hon ac i osod y sylfeini ar gyfer cyflawni targed Cymru ar gyfer 2030. Yn fyd-eang, mae allyriadau'n dal i godi, a bydd pob gostyngiad ychwanegol mewn allyriadau y gallwn ni eu cyflawni yn gwneud gwahaniaeth.

Mae ein cynllun yn fwy na chyfres o fuddsoddiadau a rheoliadau arfaethedig. Mae'n nodi'r ffyrdd y byddwn yn gweithio ar y cyd â diwydiant, gyda chyrff cyhoeddus eraill a chymunedau i gyflawni ein huchelgeisiau a'u cryfhau ymhellach. Gellir dangos y dull hwn drwy'r dull yr ydym yn ei gymryd ar gyfer dwy o'r heriau mwyaf arwyddocaol o ran darparu sero net yng Nghymru.

Y cyntaf yw'r dull yr ydym yn ei fabwysiadu i ddileu allyriadau o gartrefi Cymru. Gallem weld nad oedd y farchnad yn darparu'r technolegau cywir ar y raddfa angenrheidiol i ymateb i her datgarboneiddio tai ac addasu'r hinsawdd yng Nghymru. Ein dull o weithredu oedd defnyddio buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn tai cymdeithasol fel modd o symud y farchnad dai ehangach drwy ein rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio. Mae £50 miliwn arall o fuddsoddiad yn y cynllun hwn ar gael eleni, yn ogystal â'r £20 miliwn a gyhoeddais y gaeaf diwethaf, i brofi ffyrdd o ddatgarboneiddio cartrefi cymdeithasol presennol, gan ddatblygu prawf o gysyniadau y gellir eu cyflwyno y tu hwnt i dai cymdeithasol.

Heddiw, gallaf gyhoeddi y bydd £50 miliwn o'r cyllid blynyddol hwn yn cael ei ymestyn dros y tair blynedd nesaf, gan adlewyrchu ymrwymiad cadarn Llywodraeth Cymru i'r mater hwn a rhoi'r sicrwydd i'r diwydiant a fydd yn ei alluogi i gynllunio ar gyfer y dyfodol, gan ddatblygu'r sgiliau a'r cadwyni cyflenwi a fydd yn galluogi datgarboneiddio cartrefi Cymru yn llwyddiannus. Daw llwyddiant y cynllun hwn yn rhannol o fuddsoddiad y Llywodraeth, ond, yn allweddol, mae hefyd yn deillio o ymrwymiad landlordiaid cymdeithasol, busnesau bach a chanolig eu maint a sefydliadau'r trydydd sector, sy'n llunio ein cynlluniau ac yn cyflawni ar lawr gwlad. Drwy weithio gyda'r partneriaid hynny a defnyddio eu harbenigedd gallwn ddatblygu'r dulliau cywir ar gyfer yr ystod amrywiol o fathau o dai yng Nghymru.

Bydd y cyllid y byddwn yn ei ddarparu yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ddangos sut y maen nhw wedi mabwysiadu dull Cymru yn gyntaf o sefydlu cadwyn gyflenwi a'i thwf. Mae hyn yn cynnwys defnyddio pren o Gymru i gefnogi ein nod o dyfu diwydiant pren cynaliadwy, gwerth uchel, medrus. Rydym yn bwriadu cefnogi cartrefi sy'n gadarnhaol o ran ynni, lle mae cartrefi tenantiaid yn cynhyrchu digon o ynni ar gyfer eu hanghenion eu hunain ac ynni dros ben i'w werthu i'r grid, gan roi hwb i incwm aelwydydd a rhoi arian yn uniongyrchol ym mhocedi tenantiaid. Mae'r dull hwn yn dangos, pan fo'r Llywodraeth yn gweithio ar y cyd â busnesau, cyrff cyhoeddus a chymunedau eraill, y gellir mynd i'r afael â hyd yn oed yr heriau datgarboneiddio mwyaf cymhleth mewn ffordd sy'n sicrhau manteision i gyfiawnder cymdeithasol a manteision economaidd lleol, yn ogystal â lleihau allyriadau.

Ail her y polisi yw'r angen i ddileu tanwydd ffosil o'r broses o gynhyrchu ynni bron yn gyfan gwbl. Llywodraeth Cymru yw'r unig Lywodraeth yn y DU, ac un o'r unig Lywodraethau yn y byd, i sefydlu safbwynt polisi i wrthwynebu echdynnu tanwydd ffosil. Rydym wedi ymrwymo i beidio â chaniatáu unrhyw drwyddedau petrolewm newydd ar gyfer archwilio neu gynhyrchu yng Nghymru. Mae ein polisi glo yn datgan ein bwriad i ddod â'r gwaith o gloddio glo yng Nghymru i ben cyn gynted â phosibl. Byddwn yn gwrthwynebu gorsafoedd pŵer newydd sy'n defnyddio tanwydd ffosil yng Nghymru ac unrhyw waith pŵer newydd arall sy'n gollwng nwyon tŷ gwydr yn sgil ei weithrediadau. Mae'r safiad cadarn hwn mewn polisi a rheoleiddio yn gyfraniad pwysig gan Lywodraeth Cymru at symud oddi wrth ddefnyddio tanwydd ffosil yn ein system ynni, ac rwy'n gobeithio y gall Llywodraethau eraill yn y DU a ledled y byd ymwroli yn sgil arweiniad Cymru.

Mae ein cynllun sero-net yn cynnwys ein nod o sefydlu cynlluniau ynni lleol manwl ledled Cymru gyfan, a bod y wlad gyntaf i fod â dull cwbl gydgysylltiedig ac integredig o ddatblygu rhwydweithiau ynni a thechnoleg nad ydynt yn dibynnu ar danwydd ffosil. Mae ein dull gweithredu arfaethedig wedi'i gynllunio i ddwyn ynghyd cyrff cyhoeddus, rheoleiddwyr, gweithredwyr seilwaith, busnesau a sefydliadau'r trydydd sector o amgylch agenda a rennir y gallwn ei chyflawni gyda'n gilydd. Yn ogystal â helpu i sicrhau bod buddsoddiadau yn ein seilwaith ynni yn effeithlon ac yn sicrhau'r budd lleol mwyaf posibl, mae'r broses o gynhyrchu'r cynlluniau hyn yn cyflawni llawer mwy nag y gallai Llywodraeth Cymru ei gyflawni drwy reoleiddio yn unig.

Wrth i ni groesawu arweinwyr y byd i'r DU ar gyfer COP26, gallwn fod yn ffyddiog bod gan Gymru'r penderfyniad a'r dyfeisgarwch i sicrhau newid sydd o fudd nid yn unig i'r byd naturiol, ond hefyd i sicrhau cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Byddaf yn teithio i COP26 yn ddiweddarach yr wythnos hon i arddangos y dull gweithredu ar gyfer yr hinsawdd yng Nghymru ac i ddysgu oddi wrth eraill hefyd. Gobeithio y bydd y datganiad hwn heddiw yn rhoi cyfle i'r Senedd groesawu'r mesurau yr ydym wedi ymrwymo i'w cymryd, i'n hannog i fynd ymhellach ac yn gyflymach pan fo cyfleoedd i wneud hynny, ac i ymuno â ni i alw ar bob corff cyhoeddus, busnes a chymuned yng Nghymru i ymuno â ni i ddarparu cyfiawnder cymdeithasol drwy ein trosglwyddiad i Gymru sero-net. Diolch, Dirprwy Lywydd.