Part of the debate – Senedd Cymru am 6:04 pm ar 2 Tachwedd 2021.
Wel, beth sydd gennym ni yn fanna ydy enghraifft o anwybyddu'n llwyr y broblem amgylcheddol sy'n cael ei chreu wrth fethu meddwl yn ddigon amgylcheddol wrth gynllunio gwasanaethau. Bydd, mi fydd cleifion sydd yn sâl iawn yn cael eu cludo yno mewn ambiwlans, ond beth am y staff? Beth am yr ymwelwyr? Beth am y cyflenwyr a'r holl gleifion dydd sydd angen cael eu hannog i adael y car gartref, nid gweld rhwystrau yn cael eu codi o'u blaenau nhw drwy ddiffyg cynllunio? Gobeithio na fydd hynny'n digwydd efo datblygiadau yn y dyfodol.
Mae yna gymaint o gwestiynau y gallwn ni fynd ar eu hôl. Mi wna i godi jest rhyw dri neu bedwar yn fan hyn. Beth mae'r Gweinidog yn mynd i wneud i adeiladu'r capasiti i gynyddu'r momentwm dros fentrau gwyrdd? Mi glywsom ni sôn yn benodol am Ysbyty Gwynedd—y gwaith da sy'n cael ei wneud yn fanna. Yn wir, mae yna waith da iawn yn mynd ymlaen ar gynlluniau gwyrdd yno. Ond, mae staff yn aml iawn wedi gorfod gweithio ar y rhaglenni gwyrdd yno yn wirfoddol ar ddiwedd sifft yn ystod cyfnod y pandemig. Felly, oes yna gynlluniau i greu'r capasiti yna, i greu swyddi arbenigol i hybu cynaliadwyedd o fewn byrddau iechyd ac ati? A pha drafodaethau, wrth gwrs, sydd wedi bod efo'r Gweinidog cyllid i helpu gwasanaethau iechyd a gofal i drio mynd ymhellach hyd yn oed na'r hyn sy'n cael ei amlinellu yn y cynllun cyflenwi strategol?
Ac yn olaf, dydyn ni ddim yn gorfod gweithredu ar ein pen ein hunain fan hyn. Nid yw Cymru'n gweithredu mewn vacuum; rydyn ni'n rhan o ymdrech ryngwladol i drio mynd i'r afael â'r broblem o arferion amgylcheddol amhriodol, ddywedwn ni, a'r angen i newid arferion o fewn gwasanaethau iechyd. Dwi wedi bod yn edrych heddiw yma ar raglen Race to Zero y Cenhedloedd Unedig, ac yn arbennig o dan y pennawd 'Health Care Without Harm'. Mae yna fyrddau iechyd, sefydliadau iechyd ar draws y byd yno sydd wedi ymrwymo i gefnogi'r rhaglen benodol honno. Mi ydych chi, mewn ffordd, yn cefnogi yr egwyddor sydd yn Race to Zero. A gaf i ofyn a wnaiff Llywodraeth Cymru sicrhau bod gwasanaeth iechyd Cymru, yr NHS yng Nghymru, a'n gwasanaethau gofal ni hefyd yn cael eu hychwanegu at y rhestr yna o sefydliadau sydd am fod yn rhan ganolog o'r ras tuag at sero net?