COVID-19 ym Mwrdeistref Sirol Caerffili

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 9 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:30, 9 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Llywydd, rwy'n diolch i Hefin David am y cwestiwn yna. Brechu yw'r cam mwyaf effeithiol o hyd i fynd i'r afael â'r coronafeirws. Mae'r cyfraddau sy'n manteisio arno yn etholaeth yr Aelod yn dal i fod yn uchel, gyda 75 y cant o bobl ifanc 16 ac 17 oed eisoes wedi cael eu brechlyn cyntaf. Rwy'n parhau i ddiolch i drigolion Caerffili am eu cefnogaeth yn hyn ac mewn camau eraill sydd eu hangen i leihau lefelau presennol y feirws.