Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 9 Tachwedd 2021.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn ychwanegol, a dwi'n edrych ymlaen at ddarllen yr adroddiad. Mae'n grêt i glywed am yr argymhellion ymarferol sydd tu fewn i'r tudalennau, ac fel oedd yr Aelod yn dweud, bydd y Gweinidog, Lynne Neagle, yn awyddus i weld yr adroddiad, a siŵr o fod i weld os mae pethau ymarferol yna ŷn ni'n gallu rhoi ar y gweill yma yng Nghymru. Rŷn ni'n gwybod, yn ystod y pandemig i gyd—pobl sy'n dioddef o ddementia a'r bobl sy'n gofalu amdanyn nhw—wedi cael amser caled dros ben, a bydd y gwaith mae'r grŵp trawsbleidiol yn ei wneud, dwi'n siŵr, yn help i ni gynllunio i roi mwy o wasanaethau i'r bobl sy'n dioddef o ddementia yn y dyfodol.