1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 9 Tachwedd 2021.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau, ac ar ran arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.
Llywydd, a gaf i hefyd gysylltu fy hun â'r sylwadau a wnaed gan yr Aelod dros Gaerffili? Ac mae ein meddyliau a'n gweddïau gyda theulu Jack Lis heddiw.
Prif Weinidog, yn eich barn chi, am ba hyd ddylai rhywun 85 mlwydd oed aros am ambiwlans ar ôl dioddef strôc?
Wel, Llywydd, rwy'n ymwybodol o'r achos y mae'r Aelod yn cyfeirio ato, ac mae'n amlwg nad yw'n dderbyniol y gadawyd i rywun aros cyhyd ag y gadawyd yr unigolyn hwnnw. Mae'r gwasanaeth ambiwlans, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, o dan straen enfawr o'r lefel uchaf erioed o alwadau y mae wedi eu cael yn ei hanes; o lefelau salwch staff, sy'n effeithio ar nifer y bobl y mae'n gallu eu rhoi mewn ambiwlansys ac ar y ffordd, ac mae cryn dipyn o hynny yn gysylltiedig â'r coronafeirws ei hun; ac o gyflyrau coronafeirws, sy'n golygu bod yn rhaid i staff ambiwlans wisgo a thynnu cyfarpar diogelu personol rhwng galwadau ac ambiwlansys yn cael eu hoedi gan yr angen i'w glanhau nhw rhwng teithiau, oherwydd amodau COVID. Mae hynny i gyd yn helpu i esbonio rhywfaint o'r straen sydd ar y system, ond nid oes neb yn fodlon pan fydd unigolion yn cael eu gadael yn aros yn rhy hir i ambiwlans gyrraedd.
Ie, Prif Weinidog, y gwir amdani oedd bod David Evans wedi aros mwy na hanner diwrnod am ambiwlans, ac nid yw hynny yn dderbyniol. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol o sylwadau Darren Panniers, pennaeth gwasanaethau ambiwlans yn y de-ddwyrain, sydd wedi dweud
'Mae oedi hir cyn trosglwyddo cleifion mewn ysbytai, nifer mawr o alwadau ac absenoldeb staff wedi amharu'n sylweddol' ar allu'r gwasanaeth ambiwlans
'i gyrraedd cleifion yn gyflym yn ystod yr wythnosau diwethaf.'
Aeth ymlaen i ddweud, wrth i Mr Evans aros am gymorth, y collwyd dros 840 o oriau mewn ysbytai yn y de yn unig. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymddiheuro i Mr Evans a'i deulu yn awr am yr amser annerbyniol y bu'n rhaid iddo aros am ambiwlans? A wnewch chi ystyried yn awr gosod targedau yn erbyn pob galwad ambiwlans, ni waeth beth fo'i chategori, ac a wnewch chi ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn benodol yn awr i sicrhau nad yw pobl ledled Cymru yn gorfod aros mwy na hanner diwrnod am ambiwlans?
Llywydd, nid wyf i'n cael unrhyw anhawster o gwbl yn ymddiheuro i unrhyw un nad yw wedi derbyn y gwasanaeth y byddem ni'n dymuno iddo ei gael, ac rwy'n gwybod bod yr ymddiriedolaeth ambiwlans eisoes wedi gwneud hynny ar ran y gwasanaeth yn uniongyrchol. O ran yr esboniadau a gynigiwyd gan yr ymddiriedolaeth, rwyf i eisoes wedi cyfeirio at y nifer mawr o alwadau a'r sefyllfa staffio y mae'r ymddiriedolaeth ambiwlans yn ei hwynebu, ond mae'r trydydd esboniad hefyd yn rhan bwysig iawn o'r darlun hwn: mae ein hysbytai yn llawn pobl nad oes angen iddyn nhw fod yno, ond lle mae'n amhosibl eu rhyddhau yn ddiogel i'w cartrefi eu hunain neu i'r gymuned, oherwydd y pwysau enfawr sydd ar y system gofal cymdeithasol hefyd ar hyn o bryd. Ac mae hynny'n golygu, pan fydd ambiwlansys yn cyrraedd ysbyty, eu bod nhw'n dod i system sydd yn llawn pwysau a straen ei hun ar hyn o bryd. Felly, nid yw gosod targedau ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans yn unig yn arwain at y gwelliannau yr hoffai'r Aelod eu gweld ac y byddwn i'n hoffi eu gweld hefyd. Mae'n rhaid i ni allu gwella llif cleifion drwy'r ysbyty fel bod mwy o gapasiti i dderbyn pobl pan fyddan nhw'n cyrraedd.
Mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud i geisio ymateb i'r pwysau a'r straen y mae'r gwasanaeth iechyd yn eu hwynebu. Yn ysbyty'r Faenor ac yn Ysbyty Treforys, lle mae rhai o'r pwysau hyn wedi bod fwyaf, mae mannau newydd yn cael eu creu fel y gellir symud pobl yn ddiogel o ambiwlans ac i mewn i'r ysbyty, dechrau eu taith a chaniatáu i'r ambiwlans hwnnw fynd yn ôl ar y ffordd eto. Rydym ni'n recriwtio mwy o bobl i'r gwasanaeth ambiwlans ei hun—dros 250 o swyddi llawnamser ychwanegol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Ac mae pwyslais di-baid, drwy'r ymddiriedolaeth ambiwlans a gyda'u cydweithwyr yn yr ysbytai cyffredinol dosbarth, ar ddod o hyd i ffyrdd o atal yr angen i bobl gael eu cludo i ysbyty yn y lle cyntaf. Mae hynny i gyd yn digwydd drwy'r amser.
Er gwaethaf y pwysau sydd ar y system, Llywydd, ym mis Medi, ymatebwyd i dros 1,000 o alwadau coch o fewn pum munud, ymatebwyd i dros 2,000 o alwadau coch o fewn wyth munud, a munud a hanner oedd yr amser ymateb canolrifol ar gyfer galwad goch yng Nghymru. Er gwaethaf y pwysau enfawr sydd ar y system, hoffwn roi sicrwydd i'r Aelod, ym mhob rhan o'r system, fod ymdrechion yn parhau bob dydd i geisio gwneud yn siŵr bod pobl yn cael y gwasanaeth sydd ei angen arnyn nhw a'u bod yn ei gael mewn modd mor brydlon â phosibl.
Wrth gwrs, nid dim ond amseroedd aros ambiwlansys y mae angen eu blaenoriaethu ar frys, mae angen mynd i'r afael ag amseroedd atgyfeirio i driniaeth hefyd. Yn ôl y ffigurau diweddaraf, mae nifer y cleifion sy'n aros mwy na 36 wythnos wedi cynyddu o ychydig yn llai na 26,000 ym mis Chwefror y llynedd i ychydig yn llai na 244,000 erbyn mis Awst eleni. Yn wir, roedd yr arosiadau hiraf yn cynnwys tua 56,000 o bobl y mae angen triniaeth orthopedig neu drawma arnyn nhw, ac, o ganlyniad, rydym ni wedi gweld pobl yn dewis hedfan i wledydd fel Lithwania oherwydd yr effaith y mae aros am driniaeth wedi ei chael ar eu bywydau.
Prif Weinidog, fe wnaethoch chi ddweud yn gynharach bod pobl yn yr ysbyty na ddylen nhw fod yno, ond mae nifer y gwelyau mewn ysbytai wedi ei dorri 30 y cant ers 1999 o dan Lywodraethau Llafur a dan arweinyddiaeth Llafur olynol. Ac rydym ni hefyd yn gwybod bod argyfwng recriwtio staff sy'n golygu nad yw tua 3,000 o swyddi gofal iechyd wedi eu llenwi ar hyn o bryd. Mae'r problemau capasiti wedi codi o dan eich arweinyddiaeth chi, hyd yn oed cyn y pandemig. Ers dros flwyddyn, rydym ni ar y meinciau hyn wedi bod yn galw am gyflwyno canolfannau llawfeddygol rhanbarthol i helpu gydag ôl-groniadau rhestrau aros, ac nid dim ond ni sy'n dweud hynny, mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon hefyd wedi bod yn galw am yr un peth yn union.
Felly, Prif Weinidog, mae cynllun gaeaf Llywodraeth Cymru yn sôn am ddatblygu canolfannau rhanbarthol COVID-lite ar gyfer rhai lleoliadau, ac felly a wnewch chi gadarnhau heddiw y bydd canolfannau llawfeddygol yn cael eu sefydlu ledled Cymru, ac os felly, pryd? Hefyd, a wnewch chi ddweud wrthym ni ba gamau byrdymor brys eraill y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i drin y rhai sydd wedi bod yn aros ar restr ers misoedd ar fisoedd fel nad oes yn rhaid iddyn nhw deithio i Lithwania i gael triniaeth yn y dyfodol?
Wel, Llywydd, mae mwy o bobl yn gweithio yn y GIG heddiw nag ar unrhyw adeg yn ei hanes, ac mae hynny yn wir am staff clinigol, nyrsys, meddygon a mathau eraill o arbenigwyr sy'n helpu i gadw ein GIG yn sefyllfa y mae ynddi. Ac o ran sylwadau'r Aelod ynglŷn â gwelyau, gwelais y deunydd a gyhoeddwyd gan y Blaid Geidwadol yng Nghymru ynglŷn â gwelyau, ac mae mor arbennig o anghywir ei bod hi'n anodd dychmygu nad ydyn nhw'n gwybod ei fod yn anghywir wrth ei gyhoeddi. Mae'r gostyngiad i nifer y gwelyau yng Nghymru wedi bod yn arafach nag y bu yn Lloegr o dan ei Lywodraeth Geidwadol ef yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Mae gostyngiad i nifer y gwelyau yn nodweddiadol o bob gwasanaeth iechyd datblygedig, wrth i ni geisio gofalu am fwy o bobl ag anableddau dysgu yn y gymuned, mwy o bobl â chyflyrau iechyd meddwl yn y gymuned, a mwy o bobl oedrannus yn eu cartrefi eu hunain nag mewn gwelyau ysbyty. Wrth i hyd yr arhosiad i gleifion mewn gwely ysbyty leihau, mae nifer y gwelyau yn y gwasanaeth iechyd wedi gostwng hefyd. Mae wedi gostwng yn arafach yng Nghymru nag o dan ei Lywodraeth ef yn Lloegr dros y degawd diwethaf. Ac nid mwy o welyau yw'r ateb yn y gwasanaeth iechyd modern, er gwaethaf y ffaith, fel yr wyf i wedi sylwi na wnaeth ei ddatganiadau i'r wasg gyfeirio ati unwaith, bod 6,000 o welyau ychwanegol wedi eu cyflwyno yn y gwasanaeth iechyd y llynedd er mwyn ymdrin ag argyfwng y pandemig.
O ran trefniadau yn y dyfodol a'r mathau o ddarpariaeth ranbarthol y gellid ei chyflwyno i helpu i ymdrin â'r ôl-groniad, yna, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Choleg Brenhinol y Llawfeddygon ac eraill i wneud cynlluniau ar gyfer y math hwnnw o ddarpariaeth yma yng Nghymru. Byddwn ni, fel y bydd pob rhan arall o'r Deyrnas Unedig yn ei wneud, yn chwilio am adnoddau prin er mwyn ymdrin â'r ôl-groniad. Mae'r Deyrnas Unedig gyfan wedi gweld y mathau o gynnydd i'r niferoedd sy'n aros am driniaeth y mae'r Aelod yn cyfeirio atyn nhw. Nid oes unrhyw gapasiti sbâr hawdd yn aros i gael ei ddefnyddio i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Byddwn yn creu capasiti yma yng Nghymru, byddwn yn diwygio rhai o'r arferion gwaith a all arwain at fwy o gynhyrchiant, a byddwn yn gweithio gydag eraill mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig i ddysgu o unrhyw arbrofion sy'n cael eu cynnal yno er mwyn ceisio gwneud yr hyn y byddai unrhyw Aelod o'r Senedd hon yn dymuno ei weld yn cael ei wneud: bod pobl yn cael y driniaeth sydd ei hangen arnyn nhw cyn gynted â phosibl o dan amgylchiadau eithriadol pandemig iechyd cyhoeddus parhaus y mae'r gwasanaeth iechyd yn ymdrin ag ef yma yng Nghymru heddiw.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. A gaf i, yn gyntaf, hefyd, ar ran Plaid Cymru gydymdeimlo o waelod calon â theulu Jack Lis? Ni ellir ond dechrau deall y galar y mae'n rhaid bod y teulu hwnnw yn ei ddioddef, ac mae ein meddyliau a'n gweddïau gyda nhw, gyda ffrindiau Jack, gyda'r gymuned a gyda staff yr ysgol, sydd hefyd, rwy'n gwybod, wedi eu heffeithio yn ofnadwy gan y drasiedi erchyll hon.
Prif Weinidog, yn ystod yr wythnos ddiwethaf, pleidleisiodd mwyafrif yr Aelodau Seneddol yn Nhŷ'r Cyffredin i wrthdroi dyfarniad y Comisiynydd Safonau Seneddol i ddiogelu cyn-Weinidog. Cyfaddefodd cyn-Weinidog arall, yr Arglwydd Bethell, i ddileu negeseuon WhatsApp lle bu'n trafod dyfarnu contractau COVID, ac mae'r Llywodraeth Geidwadol bellach wedi ei chyhuddo o rannu nid yn unig contractau ond seddi yn Nhŷ'r Arglwyddi yn gyfnewid am roddion gwleidyddol. Rydym ni wedi gweld cyhuddiadau o lygredd gwleidyddol yn y gorffennol, ond o ystyried maint a chwmpas y don bresennol o ffrindgarwch, contractau gwerth cannoedd o filiynau o bunnoedd, a'r ymgais amlwg i danseilio'r cyrff gwarchod annibynnol sy'n nodweddion democratiaeth sy'n gweithio, a yw San Steffan fel system wleidyddol, fel y mae hyd yn oed cyn-Brif Weinidog Ceidwadol wedi ei ddadlau, yn gwbl lygredig erbyn hyn?
Wel, Llywydd, clywais y cyfweliad a roddodd Syr John Major dros y penwythnos, ac yr oedd yn gyhuddiad grymus iawn am y datblygiadau mwy diweddar yn San Steffan. Os nad yw'r Aelodau wedi cael cyfle i'w glywed, rwy'n credu ei fod yn werth 20 munud o amser unrhyw un. Byddai'r dystiolaeth gronnol o'r ffordd y mae'r Llywodraeth Geidwadol bresennol yn cyflawni ei chyfrifoldebau, rwy'n credu, yn dychryn unrhyw un sydd â buddiannau democratiaeth iach a gweithredol yn agos at ei galon. Ac nid yw yn y meysydd hyn yn unig. Byddwch yn cofio i Syr John Major ddechrau ei gyfweliad drwy ddweud bod awgrym o'r Llywodraeth hon yn gweithredu mewn ffordd, 'Ni yw'r meistri nawr.' Mewn geiriau eraill, 'Gallwn ni wneud beth bynnag rydym ni ei eisiau, lle'r ydym ni ei eisiau, sut rydym ni ei eisiau.' Ac mae hynny yr un mor wir o'u triniaeth o'r setliad datganoli ag y mae o'r materion y mae arweinydd Plaid Cymru wedi cyfeirio atyn nhw heddiw. Yn y pen draw, mae'n peryglu dwyn anfri nid yn unig arnyn nhw eu hunain ond ar y sefydliadau rydym ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw hefyd, ac mae llawer iawn o waith adfer i'w wneud os nad yw digwyddiadau'r 10 diwrnod diwethaf yn mynd i adael etifeddiaeth barhaol.
Wrth gwrs, mae'r cymhleth uwchraddoldeb hwn sydd gan y Llywodraeth bresennol hon yn San Steffan yn cael ei fynegi nid yn unig o ran tanseilio annibyniaeth y comisiynydd safonau ond hefyd annibyniaeth y Comisiwn Etholiadol, y comisiwn penodiadau, a'r holl fesurau gwirio a chadw cydbwysedd annibynnol ar ei grym. Ein hateb i hynny, wrth gwrs, yw dangos sut y gallai democratiaeth iach, fodern o'r radd flaenaf edrych yn yr unfed ganrif ar hugain drwy ddod yn genedl annibynnol ein hunain. Ond, wrth i ni fod wedi ein dal yn gaeth mewn system San Steffan sy'n bwdr i'r gwraidd, beth allwn ni ei wneud i insiwleiddio ein hunain o'i chanlyniadau mwyaf dybryd? A wnewch chi ychwanegu eich llais, Prif Weinidog, at y rhai sy'n galw am ddiddymu Tŷ'r Arglwyddi sy'n seiliedig ar nawdd gwleidyddol yn hytrach na'i ddiwygio yn unig? Ac a ydych chi'n cytuno y dylai'r heddlu Metropolitan drin honiadau o werthu anrhydeddau o leiaf mor ddifrifol nawr ag y mae wedi ei wneud o dan weinyddiaethau blaenorol?
Mae Adam Price yn llygad ei le i ddweud, yn ystod y weinyddiaeth Lafur ddiwethaf, fod Scotland Yard wedi cymryd honiadau o werthu anrhydeddau mor ddifrifol ei fod wedi anfon aelodau uchel iawn o Scotland Yard i Downing Street heb unrhyw rybudd eu bod nhw'n dod. Byddai'n ddiddorol gweld a yw mewn gwirionedd yn mabwysiadu'r un dull o ran yr achosion presennol.
Rwyf i wedi credu ers tro byd mewn diddymu Tŷ'r Arglwyddi. Rwy'n credu mewn ei ddisodli ag ail siambr etholedig lle mae sefyllfa'r cenhedloedd wedi ei diogelu—mewn rhai ffyrdd, fel y mae'r Senedd yn gweithredu yn system yr Unol Daleithiau. Ond, nid yw rhai o'r pethau yr ydym ni wedi eu clywed yn ddiweddar yn ymwneud â Thŷ'r Arglwyddi yn unig; maen nhw'n ymwneud â'r ffyrdd eithriadol y mae'n ymddangos bod rhai Aelodau Seneddol yn gweithredu hefyd. Mae achos Geoffrey Cox yr ydym ni wedi bod yn darllen amdano y tu hwnt i ddisgrifiad—dyn yn cael ei dalu bron i £0.5 miliwn i weithio i Lywodraeth dramor sy'n destun ymchwiliad i lygredd gan Lywodraeth y DU ac yn gwneud hynny i gyd pan fo'n ymddangos bod ganddo swydd lawnamser yn cynrychioli ei etholwyr ei hun. Ni allech chi wneud y peth i fyny.
Rwyf i yn meddwl, mewn ffordd, Llywydd, ei bod bron, i mi, yn cael ei drechu gan y newyddion am gyn-Weinidog arall, Chris Grayling—dyn, y byddwch chi'n cofio, lle dywedodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol y byddai'r gost o ddigolledu pobl am y contractau yr oedd wedi eu cytuno ar gyfer fferïau yn £56 miliwn. Byddwch chi'n cofio ei gytundeb gyda Seaborne Freight: £14 miliwn i gwmni nad oedd hyd yn oed yn berchen ar fferi—dim un o gwbl—ac £1 miliwn yn cael ei thalu i ymgynghorwyr er mwyn sicrhau'r contract hwnnw. Rwy'n gorwedd yn effro yn y nos yn meddwl tybed sut gallwch chi dalu £1 miliwn i ymgynghorydd i sicrhau contract i chi gyda chwmni at ddibenion fferïau nad oedd ganddo fferi hyd yn oed. Ond, y newyddion da yw bod Chris Grayling bellach yn ennill £100,000 yn ychwanegol at ei gyflog fel ymgynghorydd i gwmni porthladdoedd. Wel, mae'n ddyn sydd â llawer o arbenigedd i fanteisio arno, fel y gwyddom.
Mae'n dweud rhywbeth—Geoffrey Cox yw'r cyn-Dwrnai Cyffredinol, onid yw? Pa mor isel maen nhw wedi mynd? Wrth i San Steffan suddo'n ddyfnach i'w lygriad ei hun, beth allwn ni ei wneud yma yn y Senedd hon i gynnal y lefelau uchaf o uniondeb cyhoeddus yn ein democratiaeth ein hunain? Y mis hwn, cyhoeddodd y pwyllgor Nolan, yn dilyn adolygiad Boardman, argymhellion newydd i gryfhau uniondeb cyhoeddus, sy'n cynnwys rhai y gallem ni eu deddfu yn annibynnol. Mae'r rhain yn cynnwys rhoi'r cynghorydd annibynnol ar y cod gweinidogol, neu'r hyn sy'n cyfateb iddo yn y fan yma, ar sail statudol a rhoi'r awdurdod iddo gychwyn a phenderfynu ar achosion o dorri'r cod. Byddai hyn yn cryfhau hyder y cyhoedd yn sefydliadau democrataidd Cymru ar adeg pan fo ymddiriedaeth yn plymio mewn mannau eraill. Ac, wrth gwrs, pan fyddwn ni'n datganoli'r system cyfiawnder troseddol, o'r diwedd, gallem ni fynd ymhellach i greu cyfraith newydd o lygredd mewn swyddi cyhoeddus, fel y mae Comisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr wedi ei gynnig ar hyn o bryd. Os bydd Prif Weinidog y DU yn gwrthod archwilio'r syniadau hyn, a ydych chi'n barod i wneud hynny fel Prif Weinidog yn ei le?
Rwy'n diolch i Adam Price am hynna. A gaf i ddechrau drwy ddweud fy mod i'n credu bod profion olynol o farn y cyhoedd sy'n cael eu cynnal yn flynyddol gan Brifysgol Aberystwyth yn dangos bod y cyhoedd yng Nghymru yn meddwl yn wahanol am y sefydliad hwn nag y maen nhw am San Steffan? Wrth i mi edrych o gwmpas y Siambr, rwy'n gweld pobl sy'n gweithio yn galed iawn ar ran eu hetholwyr, nad oes ganddyn nhw unrhyw swyddi eraill y maen nhw'n eu gwneud ar yr un pryd a lle mae pobl yn cyflawni eu cyfrifoldebau â synnwyr gwirioneddol o uniondeb a gyda budd y cyhoedd yn bennaf yn eu meddyliau. Ac rwy'n credu bod hynny yn wir ym mhob rhan o'r Siambr hon. A oes mwy y gallwn ni ei wneud i wneud yn siŵr ein bod ni'n cynnal yr enw da hwnnw, ein bod ni'n gwneud yn siŵr bod pobl yng Nghymru yn parhau i fod â hyder bod yr hyn sy'n digwydd yn eu henw nhw, yn eu Senedd nhw, yn cael ei wneud mewn ffordd y bydden nhw'n barod i'w hystyried yn gyson â'r safonau y maen nhw'n credu byddai'n iawn? Wel, wrth gwrs, os oes—ac mae gen i ddiddordeb yn adroddiadau adolygiad Nolan—mwy o bethau y gallwn ni eu gwneud i wneud yn siŵr ein bod ni'n parhau i sicrhau'r enw da hwnnw, yna, wrth gwrs, rwy'n credu y dylem ni eu gwneud nhw. Ond rwy'n credu y dylai fod gennym ni rywfaint o hyder bod y ffordd y mae tymhorau dilynol ar ôl datganoli wedi eu cynnal yn rhoi gwahanol lwyfan ac enw da i ni ym meddyliau'r cyhoedd yng Nghymru. Dylem ni warchod hynny yn ofalus a pharhau i wneud pethau i wneud yn siŵr ein bod ni'n parhau i'w sicrhau i'r dyfodol.