2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 9 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 2:56, 9 Tachwedd 2021

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Drefnydd, gaf i ofyn i chi am ddatganiad llafar ynglŷn â'r sefyllfa ddiweddaraf o ran effaith cyngor cynllunio Cyfoeth Naturiol Cymru ar afonydd mewn ardaloedd cadwraeth arbennig sy'n sensitif i phosphates? Mae hyn, wrth gwrs, yn cael effaith fawr ar draws rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn deall yn glir yr angen am afonydd glân ac afonydd dilygredd, ond mae'n amlwg i mi fod y canllawiau hyn yn mynd i gael effaith fawr iawn a sylweddol ar allu awdurdodau lleol a chi, fel Llywodraeth—fe wnaf i dynnu'r masg i chi fy nghlywed i yn well—i gyflawni nifer o gynlluniau pwysig iawn, fel adeiladu tai fforddiadwy, cynlluniau datblygu economaidd, bargen canolbarth Cymru ac yn y blaen. Nawr, rwy'n deall eich bod chi wedi sefydlu gweithgor cenedlaethol i ddod â'r prif asiantaethau at ei gilydd i gynllunio ffordd ymlaen. A allwn ni gael datganiad wrthych chi, felly, ar waith y gweithgor hwn a fyddai'n ein galluogi ni, fel Aelodau yn y Siambr, i drafod y materion hyn? Diolch yn fawr.