Part of the debate – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 9 Tachwedd 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n falch bod y Gweinidog wedi cyflwyno datganiad ar y modd y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r economi sylfaenol heddiw. Wrth gwrs, mae'r economi sylfaenol mor hanfodol bwysig i'r ffordd yr ydym ni'n byw; fel y dywedwyd, mae'n cwmpasu popeth o'r gofal cymdeithasol sydd ar gael yn ein cymunedau ni i'r bwyd yr ydym ni'n ei fwyta, ac felly mae hi'n galonogol iawn i ni gael gweld Llywodraeth Cymru yn ymgorffori iaith yr economi sylfaenol a'i hegwyddorion yn ei pholisïau economaidd.
Mae datganiad heddiw wedi tynnu sylw at rai o'r prosiectau a ariannwyd drwy gronfa her yr economi sylfaenol, ac fe wn i fod effaith y cyllid hwnnw wedi arwain at ddatblygu rhai prosiectau sy'n wirioneddol arloesol. Mae'r datganiad yn ei gwneud hi'n glir y bydd cronfa cwmnïau lleol gwerth £1 miliwn yn adeiladu ar lwyddiant y gronfa her, sy'n gadarnhaol iawn. Efallai mai dyma'r amser, felly, i adolygu'r gronfa her i sicrhau bod yna wir werth am arian a bod economïau lleol yn cael eu trawsnewid o ganlyniad i'r buddsoddiad hwnnw. Felly, a all y Gweinidog ddweud wrthym ni sut mae Llywodraeth Cymru am fonitro effeithiolrwydd y gwariant drwy gronfa her yr economi sylfaenol ac a wnaiff ef gadarnhau hefyd y bydd yn cyhoeddi asesiad o'r prosiectau hynny sydd wedi cael cyllid? Ac a wnaiff ef egluro hefyd a fydd y gronfa sy'n cefnogi cwmnïau lleol ar hyn o bryd yn disodli'r gronfa her neu, yn wir, yn gweithio ochr yn ochr â hi?
Mae datganiad heddiw yn sôn am gaffael blaengar, ac mae hwnnw'n rhywbeth y mae'r Gweinidog yn gwybod fy mod i'n awyddus i'w weld yn digwydd ledled Cymru. Mae angen i ni weld gwelliannau i'n harferion o ran caffael i sicrhau bod busnesau bach yn gallu cystadlu'n deg am gytundebau. Mae'r Gweinidog yn dweud ei fod ef yn benderfynol o fwrw ymlaen â mentrau sy'n sicrhau bod ein harian cyhoeddus ni'n cael ei wario yma a hyrwyddo cydnabyddiaeth ehangach o swyddogaeth yr economi sylfaenol wrth helpu i gynnal a chryfhau ein ffyrdd unigryw o fyw, ac rwy'n falch o glywed hynny. Efallai y gwnaiff ef ddweud ychydig mwy wrthym ni am raglen gaffael economi sylfaenol GIG Cymru, ac o gofio bod gwerth cymdeithasol yn faen prawf gorfodol erbyn hyn yn llawer o gytundebau'r GIG, a wnaiff ef ddweud wrthym ni sut y bydd yn monitro hyn i sicrhau bod contractau yn cael eu dyfarnu i'r busnesau priodol?
Wrth gwrs, er mwyn nodi cyfleoedd i leoleiddio gwariant, mae'n hanfodol bod cymorth busnes yn cael ei adolygu mewn gwirionedd. Roedd y Gweinidog blaenorol o'r farn y dylid cynnal adolygiad o gymorth busnes, gan gynnwys Busnes Cymru, i sicrhau y gallai cwmnïau o Gymru gyflenwi cytundebau cyhoeddus a bylchau cyflenwad. Felly, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau bod yr adolygiad hwnnw'n cael ei gynnal, ac os felly, a wnaiff ef hefyd rannu canlyniadau'r adolygiad hwnnw gyda ni?
Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o alwad y Ffederasiwn Busnesau Bach am safbwynt economi sylfaenol i lywio'r gwaith o lunio polisïau, ac rwy'n credu bod budd i'r syniad hwn. Un agwedd ar eu safbwynt yw annog busnesau mwy i gefnogi busnesau bach a chanolig eu maint mewn sectorau sy'n cael eu dominyddu gan gwmnïau mawr sydd â dylanwad anghymesur. Yr enghraifft a gaiff ei defnyddio ganddyn nhw, wrth gwrs, yw'r diwydiant bwyd, ac mae datganiad heddiw hefyd yn rhoi ystyriaeth i bwysigrwydd y sector bwyd. Er enghraifft, rwy'n falch o weld bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cael ei ariannu i archwilio'r gwaith o ddatblygu cyfleuster rhewi a anelir at gynhyrchwyr bwyd lleol. Mae hi mor bwysig ein bod ni'n helpu cynhyrchwyr lleol yn y rhanbarth ac yn cadw mwy o'r gwerth ychwanegol a ddaw yn sgil cynhyrchu yn lleol hefyd.
Mae'n siŵr bod y Gweinidog yn ymwybodol o barc bwyd sir Benfro yn Hwlffordd, sy'n enghraifft wych o ffordd o estyn cyfleoedd i gynhyrchwyr gaffael rhandiroedd i ddatblygu cyfleusterau cynhyrchu a phrosesu bwyd a fydd yn creu gwerth ychwanegol, ac, yn wir, yn creu swyddi newydd yn y rhanbarth. A wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu safbwynt yr economi sylfaenol? Ac a wnaiff ef ddweud wrthym ni hefyd beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi prosiectau fel parc bwyd sir Benfro a sicrhau bod ymarfer da fel hyn yn cael ei gyflwyno mewn ardaloedd eraill?
Efallai fod y Gweinidog yn ymwybodol o'r adroddiad a gyhoeddwyd gan Sefydliad Bevan y llynedd, a oedd yn canolbwyntio ar allu a photensial busnesau mewn tair cymuned yng Nghymoedd y de: Treharris ym Merthyr Tudful, Treherbert yn Rhondda Cynon Taf, a Chwmafan yng Nghastell-nedd Port Talbot. Roedd yr adroddiad hwnnw'n canfod bod angen anelu cymorth at ficrofusnesau gyda chyfathrebu a rhwydweithiau llawer mwy effeithiol rhwng y busnesau eu hunain a rhwng y busnesau, llywodraeth leol, a Llywodraeth Cymru, mewn gwirionedd. Ac felly rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn manteisio ar y cyfle heddiw i ddweud mwy wrthym ni am sut mae Llywodraeth Cymru am rymuso ei chyfathrebu a'i rhwydweithiau gyda busnesau, yn arbennig yn yr ardaloedd hynny lle mae'r economïau lleol yn eiddil.
Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r gwaith a wnaeth Cyngor Dinas Preston i ddatblygu cyfoeth cymunedol, sydd wedi llwyddo i hybu twf cynhwysol yr economi leol ers 2012, ac fe allwn ni ddysgu gwersi o'r ffordd y mae eraill yn datblygu'r economi sylfaenol. A chan fod Llywodraeth Cymru hefyd yn berchen ar dir ac eiddo sylweddol, mae'n hanfodol ei bod yn defnyddio'r asedau hynny i sicrhau manteision cymdeithasol ac amgylcheddol. Felly, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni pa waith a wnaethpwyd i archwilio sut y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei hasedau ei hun i ddatblygu'r economi sylfaenol yng Nghymru? Ac, fel y mae'r Gweinidog wedi ein hatgoffa ni heddiw, mae'r economi sylfaenol yn gyfrifol am greu pedair o bob 10 swydd a £1 ym mhob £3 a wariwn ni, felly nid ydym ni'n sôn am symiau bach o arian yn y fan hon. Wrth gwrs, mae pandemig COVID wedi effeithio ar gadernid rhai cymunedau, ac mae hi'n hanfodol ein bod ni'n deall pa mor fawr yw'r effaith a fu ar yr economi sylfaenol. Felly, efallai y bydd y Gweinidog yn cytuno i gyhoeddi asesiad o effaith COVID-19 ar yr economi sylfaenol.
Felly, yn olaf, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad a dweud fy mod i'n edrych ymlaen at glywed mwy am sut y mae Llywodraeth Cymru yn datblygu ac yn cyflwyno'r economi sylfaenol ar raddfa fwy yma yng Nghymru? Diolch.