Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 9 Tachwedd 2021.
Un o elfennau hanfodol yr economi sylfaenol yw gofal cymdeithasol. Mae'n galluogi cymaint o bobl i fyw bywydau llawn, os ydyn nhw'n rhai sy'n cael gofal, yn berthnasau neu ffrindiau agos i'r rhai sy'n cael gofal, yn ogystal â'r nifer sylweddol o bobl sy'n gweithio yn y sector. Mae'r sector yn wynebu straen ar ei adnoddau na welwyd ei debyg erioed, ac felly rydym ni'n sianelu cymorth i geisio helpu i fynd i'r afael â'r her hon.
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cael ei gefnogi i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio ar hyn o bryd. Mae gennym ni raglen genedlaethol i ganolbwyntio ar hyn sy'n helpu darparwyr gofal i leihau costau recriwtio, a rhoi cynnig o gyfleoedd i ddychwelyd i'r gwaith i'r rhai sydd bellaf i ffwrdd oddi wrth gyflogaeth a'r rhai sy'n wynebu newidiadau annisgwyl mewn bywyd, fel diswyddiadau.
Rydym ni'n cefnogi Cyngor Sir y Fflint i fod y cyngor cyntaf yng Nghymru i gomisiynu gofal yn uniongyrchol gan ficro-ofalwyr. Fe allai recriwtio micro-ofalwyr mewn pentrefi anghysbell helpu i adeiladu economïau cefn gwlad a chynnig mwy o atebion lleol, fe all leihau gofynion teithio ac allyriadau carbon cysylltiedig hefyd, yn ogystal â chefnogi'r Gymraeg wrth gwrs. Fe allai helpu i annog twf busnesau sy'n perthyn i Gymru, ac mae hwn yn ddull y byddwn ni'n ceisio ei hyrwyddo ledled Cymru.
Rydym ni hefyd yn helpu'r sector manwerthu i ymateb i arferion siopa newydd drwy roi cyfrwng electronig ar waith i helpu i wella presenoldeb digidol manwerthwyr llai a helpu hefyd i nodi cyfleoedd pellach ar gyfer lleihau effaith carbon. Mae'r datblygiad hwn yn cael ei gyflwyno mewn tri awdurdod lleol i ddechrau, ac rwy'n disgwyl i hynny gael ei ddilyn i hynny gael ei gyflwyno trwy Gymru gyfan wedyn.
Mae'r pandemig ac effaith barhaus Brexit wedi tanlinellu pwysigrwydd cadwyni cyflenwi bwyd lleol sy'n rhai cadarn. Mae bwyd yn hanfodol yn yr economi sylfaenol ac fe all helpu i ddod â manteision niferus, gan ddarparu cyfleoedd i gyflenwyr a chynhyrchwyr bwyd lleol, yn ogystal â gwella iechyd a lles. Fe all chwarae rhan bwysig hefyd wrth helpu i wireddu ein huchelgeisiau sero-net ni. Rydym ni wedi parhau i gefnogi gwaith i helpu i feithrin y gallu i gynhyrchu bwyd yn lleol. Mae bwrdd iechyd Hywel Dda wedi ei ariannu i archwilio'r gwaith o ddatblygu cyfleuster rhewi a choginio a anelir tuag at gynhyrchwyr bwyd lleol.
Rydym ni'n cefnogi cynhyrchu amaethyddol mewn amgylchedd rheoledig. Fe ddylai hyn helpu i wella ein gallu i dyfu cnydau drwy gydol y flwyddyn ac fe fydd hynny'n helpu busnesau bach i gystadlu yn deg o ran darpariaeth bwyd yn lleol, ar yr un pryd â chyfrannu at dwf ein heconomi werdd ni. Rwy'n benderfynol y byddwn ni'n cynyddu'r swm o fwyd o Gymru a roddir ar blatiau'r cyhoedd yma. Rydym ni'n gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i wneud i hyn ddigwydd, gan gynnwys cyngor Caerffili, sy'n arwain ar y fframweithiau bwyd ar gyfer sector cyhoeddus Cymru, ac rydym ni'n parhau i weithio gyda chyfanwerthwyr a chyflenwyr bwyd mawr i'w helpu i bontio tuag at fwy o gyflenwad o Gymru.
I feithrin yr economi sylfaenol yn llwyddiannus ac ar y cyd, fe fydd yn rhaid i ni gydnabod y manteision ehangach sy'n deillio o brynu yn lleol. Mae hyn yn cynnwys cefnogi gwaith teg, cryfhau cymunedau a lleihau ein heffaith ni o ran carbon, yn ogystal â gwella llesiant. Mae caffael cyhoeddus werth tua £7 biliwn bob blwyddyn yng Nghymru. Rwy'n benderfynol y byddwn ni'n bwrw ymlaen â mentrau sy'n sicrhau bod ein harian cyhoeddus yn cael ei wario yma ac yn hyrwyddo cydnabyddiaeth ehangach o swyddogaeth yr economi sylfaenol wrth helpu i gynnal a chryfhau ein ffyrdd unigryw o fyw.
Rwy'n falch o amlinellu, drwy gymorth a ddyrannwyd ar gyfer rhaglen gaffael economi sylfaenol GIG Cymru, fod cyflenwyr o Gymru wedi gallu ennill gwerth £11 miliwn ychwanegol o gontractau gofal iechyd o fis Ebrill i fis Hydref yn ystod y flwyddyn. Mae gwerth cymdeithasol yn faen prawf gorfodol erbyn hyn yn llawer o gontractau'r GIG ac fe fyddwn ni'n gweithio gyda phartneriaid i brif ffrydio hyn ymhellach.
Rydym wedi gweld blaengynllun contractau GIG Cymru am y ddwy flynedd nesaf ac mae llywodraeth leol wedi creu llif contractio blaengar a chydweithredol. Felly, fe fyddwn ni'n gweithio yn agos gyda'n gilydd i egluro cyfleoedd contractio ar gyfer yr economi sylfaenol a'r cymorth i fusnesau a fydd yn rhoi pob cyfle i'n cyflenwyr lleol allu ennill y cytundebau hyn. Byddwn yn annog cwmnïau cydweithredol, mentrau cymdeithasol a busnesau eraill sy'n eiddo i weithwyr i gymryd rhan yn y gwaith o ddarparu gwariant cyhoeddus.
Mae gwelliant o ran gwelededd y cyfleoedd contractio yn y dyfodol yn mynd i'r afael â rhwystr sylweddol, sydd yn draddodiadol wedi cyfyngu ar y cyfle sydd gan gyflenwyr lleol i gael gafael yn llwyddiannus ar gaffael cyhoeddus. Fe all gofynion eraill hefyd, gan gynnwys achredu a chymwysterau, gyfyngu ar gyfle busnesau lleol i ennill cytundebau. I helpu i fynd i'r afael â hyn, rwy'n gallu cadarnhau y byddaf i'n lansio cronfa i gefnogi cwmnïau lleol y mis hwn; i ddechrau, fe fydd yn rhoi cymorth i fusnesau yn y sectorau bwyd, gofal cymdeithasol, ac ôl-osod er mwyn optimeiddio. Fe fydd y gronfa £1 miliwn sy'n cefnogi cwmnïau lleol yn adeiladu ar lwyddiant y gronfa her. Yn ogystal ag achredu a chymwysterau, fe fydd y gronfa yn hyrwyddo'r ystod eang o gyfleoedd y mae'r sectorau hyn yn eu cynnig o ran gyrfaoedd. Fe all hyn apelio at bob rhan o'n poblogaeth eang ac amrywiol.
Dirprwy Lywydd, rydym ni wedi gwneud peth cynnydd calonogol. Fe geir cyfle ardderchog o hyd i gyflymu twf yn yr economi sylfaenol ac ymgysylltu yn llawn â'r busnesau hynny yn ein huchelgeisiau ni i gyflwyno rhaglenni fel y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, y cynllun gweithredu ar weithgynhyrchu, a helpu i sicrhau sero-net. I wireddu posibiliadau'r economi sylfaenol, mae angen gweithio cydgysylltiedig ar draws y Llywodraeth, gyda busnes, y sector cyhoeddus yn fwy eang a'n partneriaid cymdeithasol ni.
Yn ystod y misoedd nesaf, fe fyddaf i'n dal ati i weithio gyda chydweithwyr yn y Cabinet i adeiladu ar y cydweithio trawsbortffolio a sefydlwyd eisoes a datblygu dulliau sy'n tanlinellu eto ein cydnabyddiaeth ni o gyfraniad hanfodol yr economi sylfaenol tuag at lesiant yma yng Nghymru.