Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 9 Tachwedd 2021.
Diolch, Llywydd. Gallaf i ddweud yn sicr, ar ôl bod i Mbale fy hun, fod arian y rhaglen ar gyfer Affrica yn cael ei wario'n dda, oherwydd roedd y cysylltiadau iechyd, y cysylltiadau addysgol rhwng y rhanbarth hwnnw o Uganda a PONT, er enghraifft, ym Mhontypridd yng Nghymru mor gryf, ac roedd y ddwy wlad ac ardal yn elwa’n fawr iawn ar y berthynas gilyddol a'r ymweliadau cyfnewid. Roedd hi mor galonogol gweld y plant ysgol yn dawnsio gyda'i gilydd yn ogystal â'r staff yno ym Mbale mewn digwyddiadau penodol, ac wrth gwrs yr holl godi arian a ddigwyddodd yn ôl yng Nghymru ar gyfer ystafelloedd dosbarth newydd a chyfleusterau newydd. Felly, roedd y sector iechyd, roedd y sector addysg, roedd cydweithfa coffi masnach deg Gumutindo, a'r holl waith datblygu cymunedol a gafodd ei wneud o ran y ffermio ymgynhaliol hefyd. Roedd cymaint o elfennau iddo, roedd yn dangos gwerth y rhaglen hon, ac mae'n braf iawn ein bod ni wedi cael 15 mlynedd bellach o Gymru dros Affrica yn gwneud y gwaith da iawn hwn, a chydnabod bod Cymru'n lwcus—rydym ni yn lwcus o fod yn rhan o'r byd heddychlon, cymharol ffyniannus, ac mae hynny yn rhoi cyfrifoldeb moesol i ni weithio gyda gwledydd eraill nad ydyn nhw o dan yr amgylchiadau ffafriol hynny i'w helpu, a thrwy wneud hynny rydym ni hefyd yn helpu ein hunain. Ac wrth gwrs mae'n rhan o'r rhyngwladoli honno o Gymru sydd, yn fy marn i, wedi bod yn nodwedd gref o ddatganoli ers 1999, ac mae'n beth da iawn i bawb yn ein gwlad.
Yn fwy lleol i mi yn awr, mae gennym ni Love Zimbabwe, sy'n gwneud gwaith da iawn yn y rhan honno o Affrica, ac maen nhw’n dweud wrthyf i fod rhai materion, yn union fel y mae'r Gweinidog wedi sôn, yn amlwg o ran y pandemig ac, yn wir, newid hinsawdd. Felly, o ran newid hinsawdd, mae'r ffactorau newydd hynny y mae'n rhaid i ffermwyr eu hystyried yn peri pryder gwirioneddol iddyn nhw ac yn ei gwneud yn anoddach iddyn nhw gynhyrchu'r bwyd y maen nhw’n dibynnu arno, ac mae pryder gwirioneddol ynghylch methiant cnydau cynyddol. Ar yr un pryd, yn ystod y pandemig, roedden nhw'n ei chael yn anoddach mewnforio bwyd i'r wlad hefyd, felly mae anawsterau mawr yno mae'n rhaid i ni eu cydnabod. A dywedir wrthyf nad ydyn nhw mewn sefyllfa dda iawn i amcangyfrif nifer yr achosion o COVID, oherwydd bod cost profion llif unffordd tua £25, ac yn amlwg nid yw llawer iawn o bobl yn gallu ei fforddio. Felly, mae'r agwedd honno ar nodi achosion yn broblem yn Zimbabwe, ac mae hynny wedi ei gwneud yn anodd gwybod graddau'r haint yn y wlad.
Mae problem hefyd o ran brechu. Dywedwyd wrthyf mai dim ond tua 1 miliwn allan o tua 15 miliwn sydd wedi cael eu brechu, a'r brechlyn sy'n cael ei ddefnyddio yw'r un Tsieineaidd, nad yw'n cael ei gydnabod gan Lywodraeth y DU, sydd ynddo’i hun yn creu nifer o anawsterau. Felly, byddwn i'n ddiolchgar, Gweinidog, pe gallech helpu i wneud y pwyntiau hynny yn eich cyswllt a'ch gwaith ar y cyd â Llywodraeth y DU. Rwy'n credu y bu'n destun siom mawr iawn bod Llywodraeth bresennol y DU wedi torri'r consensws hwnnw i gynnal cyllid datblygu rhyngwladol ar gyfer y byd datblygol. Rwy'n credu ei bod yn gwbl bengam, yn anghywir, yn anfoesol, ac yn wir yn wrthgynhyrchiol o ran yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn dweud yw ei hamcan. Rwy'n gobeithio yn fawr y byddan nhw'n ailystyried, hyd yn oed ar y cam hwyr hwn, ac yn mabwysiadu polisi a dull mwy moesol y gellir ei amddiffyn.
Y mater arall y byddaf yn sôn amdano, Gweinidog, yw Somaliland, oherwydd bod gennym ni nifer o bobl, yng Nghaerdydd yn arbennig, ond hefyd yng Nghasnewydd, sydd â chysylltiadau â Somalia a Somaliland. Mae Somaliland wedi cymryd camau breision i brofi ei hun yn ddemocratiaeth weithredol sydd wedi ymrwymo i sefydlogrwydd a datblygiad cynyddol yn y wlad. Ond yn amlwg maen nhw'n cael anawsterau mawr gyda COVID, fel y mae gweddill y byd, ac yn fwy felly oherwydd y tlodi mawr yn y wlad. Felly, rwy'n gwybod bod gennym ni gysylltiadau yn datblygu â Somaliland, Gweinidog, a byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi ddweud rhywfaint am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gweld y berthynas honno'n esblygu ac yn datblygu, yn enwedig yng ngoleuni'r anawsterau presennol o ran y pandemig.