Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 9 Tachwedd 2021.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Wel, unwaith eto heddiw, mae yna gryn ddiddordeb yn yr hyn rydym ni’n ei drafod, a dwi’n falch iawn o hynny. Mae’r rhain, fel popeth rydym ni wedi ei drafod dros y flwyddyn ac wyth mis diwethaf—y penderfyniadau anodd sydd wedi cael eu cymryd—yn faterion o wirioneddol bwys. Mi ddywedais i yr wythnos diwethaf fod Plaid Cymru yn debyg o fod yn pleidleisio dros y rheoliadau yma heddiw. Mi fyddwn ni yn gwneud hynny, ond mae’n bwysig hefyd bod yna eglurhad nid yn unig sut rydym ni’n pleidleisio ar faterion fel hyn, ond pam.
Pan drafodon ni’r rheoliadau cyntaf ar basys COVID ar 5 Hydref, mi gofiwch chi i Blaid Cymru bleidleisio yn erbyn. Mi oeddem ni’n cefnogi’r egwyddor, fel y gwnaethon ni’n glir, o fynnu tystiolaeth bod pobl yn llai tebygol o drosglwyddo'r feirws i eraill cyn cael mynediad i rai lleoliadau—nid i wasanaethau hanfodol, ond i rai lleoliadau. Ond mi oeddem ni wedi gofyn am dystiolaeth am effeithiolrwydd tebygol y polisi penodol oedd wedi cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru. Roeddem ni’n bryderus, er enghraifft, am yr elfen o hunanardystio canlyniadau profion llif unffordd. Mi oeddem ni wedi cynnig trafod ymhellach efo’r Llywodraeth sut y gellid cryfhau’r rheoliadau, ond am resymau hysbys iawn bryd hynny mi gymeradwywyd y rheoliadau. Felly pasys COVID ar y model hwn sydd gennym ni yng Nghymru, ac er i ni bleidleisio yn erbyn, am y rhesymau dwi wedi eu hegluro, yn y gobaith o allu dod â model gwahanol a chryfach, o bosib, i mewn, rydym ni'n derbyn, wrth gwrs, fod hyn yn well na pheidio â chael unrhyw beth yn ei le.
Y cwestiwn o'n blaenau ni heddiw ydy: a ddylid ymestyn y rhestr o lefydd lle mae angen gorfod dangos pàs? Eto, mynnu tystiolaeth y gwnaethom ni. Er enghraifft, mi oedd yna un darn o ymchwil penodol cafodd ei dynnu i'm sylw i, ac roedd hi yn bwysig rhoi ystyriaeth iddo fo, a dwi'n ddiolchgar i bobl sydd yn pasio tystiolaeth ac yn codi pryderon efo fi. Gwaith ymchwil gan Goleg Imperial oedd hwnnw, wedi'i gyhoeddi yn y Lancet, yn edrych ar ba mor drosglwyddadwy ydy'r feirws mewn pobl sydd â brechiad dwbl o'i gymharu â rhai sydd ddim. Ac mae'n rhaid sicrhau, wedi'r cyfan, fod modd dangos budd i frechiad o ran helpu i atal trosglwyddiad. Un o ganfyddiadau'r ymchwil oedd bod trosglwyddiad gan rywun wedi'i frechu bron cymaint â rhywun sydd heb ei frechu, ond dim ond pan fyddan nhw ar eu mwyaf heintus mae hynny. Ac, o drafod efo'r Gweinidog iechyd—a dwi'n ddiolchgar am y trafodaethau rydym ni wedi'u cael—a gofyn barn gwyddonwyr y Llywodraeth, a thrwy astudiaeth bellach, mae rhywun yn pwyso a mesur hynny efo'r canfyddiad bod llwyth feirysol rhywun sydd wedi'i frechu yn lleihau yn gyflymach na rhywun sydd ddim, ac mae hynny i fi yn dangos gwerth brechu fel mesur atal trosglwyddo. Dyna'r dystiolaeth gafodd ei rhoi o'm blaen i. Dwi wedi darllen astudiaeth arall gan weinyddiaeth iechyd yr Iseldiroedd hefyd, sy'n dod i gasgliad tebyg.
Yn ogystal, mae'r Gweinidog yn nodi yn hollol gywir fod pobl sydd wedi'u brechu'n llawn yn llai tebygol o fod yn heintus yn y lle cyntaf; dwi'n ddiolchgar am lythyr yn egluro hynny. Mae hynny hefyd yn rhywbeth sy'n cael ei gadarnhau eto yn astudiaeth Imperial hefyd, a dwi'n dal yn gwbl argyhoeddedig, fel y mae trwch yr arbenigwyr a'r gwyddonwyr yn rhyngwladol, mai brechu ydy'r amddiffyniad gorau yn erbyn cael eich heintio. Mae o'n wirfoddol, wrth gwrs, ond dwi'n annog pobl i gymryd y brechiad, ac mae mesurau sy'n gallu dylanwadu ar benderfyniad pobl i gymryd y brechiad ai peidio, yn fy nhyb i, yn gallu bod yn werthfawr iawn.
Gair yn sydyn am y gefnogaeth ymarferol fydd ei hangen ar grwpiau ehangach o sefydliadau rŵan, os caiff y rheoliadau yma eu cymeradwyo heddiw. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn bod y Llywodraeth yn cydnabod, waeth pa mor llyfn mae Gweinidogion yn dweud wrthym ni mai pethau wedi mynd o ran y pasys COVID hyd yma, fod hyn yn creu poen meddwl. Mi fydd mudiadau gwirfoddol ymhlith y rhai sy'n cael eu cynnwys—theatrau a sinemâu cymunedol ac ati—ac mae angen sicrhau bod pob cymorth ar gael efo gweithredu'r pasys.
Ac i gloi, gadewch inni gofio mai ceisio osgoi cyfyngiadau mwy na sydd rhaid ydy nod hyn. Mi fyddai'r Llywodraeth yn cyd-fynd â fi yn hynny o beth, dwi'n gwybod. Ond os ydy'r Llywodraeth yn teimlo, er enghraifft, fod angen gwneud yr achos dros ehangu pasys COVID ymhellach eto yn y dyfodol, rhywbeth allai gynnig fwy fyth o her o ran ei weithredu o, mi fyddwn ni eto yn mynnu bod y dystiolaeth yn mynd yn gryfach eto. Does yna ddim un o'r penderfyniadau yma yn hawdd, a thra ei bod hi'n bwysig gallu cyfiawnhau cyflwyno unrhyw gyfyngiadau, mae'n rhaid hefyd inni gadw llygaid ar y nod, sef i gadw pobl, yn cynnwys pobl fregus iawn yn aml iawn, mor ddiogel ag y gallwn ni. A chofiwch, dydy pasys na dim byd arall yn gweithio ar eu pennau eu hunain, a rŵan, fel trwy gydol y pandemig yma, mae'n rhaid pwysleisio pwysigrwydd—ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth ei orfodi hefyd y gorau gallan nhw—y pethau sylfaenol yna fel gwisgo mwgwd, sicrhau awyr iach, cadw pellter ac ati, sydd yn dal yn gwbl allweddol yn y frwydr yn erbyn y feirws, a dwi'n gofyn i'r Llywodraeth gryfhau ei gwaith yn hynny o beth.