Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 9 Tachwedd 2021.
Ydw. Roeddech chi'n sôn am ffeithiau yn gynharach. Dyma'r ffeithiau: gallwch gael pigiadau COVID a dal i gael eich heintio a lledaenu COVID. Gallwch gofrestru i mewn i system pas COVID gyda chanlyniad negyddol hyd yn oed os ydych wedi cael un cadarnhaol. Nid yw hynny'n diogelu pobl, mae hynny'n tanseilio ffydd yn y system, a dyna pam mai hon yw'r ffordd anghywir o fynd ati i geisio cynnal ffydd. Os oedd mor boblogaidd ymhlith busnesau, pam y maen nhw i gyd yn gwrthwynebu hynny? Pam nad yw busnesau—