Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 9 Tachwedd 2021.
Nid oedd y pwynt yr oeddwn i'n ei wneud yn ymwneud cymaint â'r ffaith bod y Llywodraeth hon yn un awdurdodol; nid wyf i'n credu fy mod i wedi defnyddio'r geiriau hynny. Y pwynt yw bod gan y system ddiffyg mawr ynddi, hynny yw y gallwch chi hunanardystio o ran canlyniad eich prawf llif unffordd. Dyna'r broblem gyda'r system. Yn y bôn, mae'n golygu y gall unrhyw un roi unrhyw beth yn y system, hyd yn oed os nad yw wedi cael prawf eu hunain. Ac mae hynny, a dweud y gwir, yn system hurt.